大象传媒

Hanes Porthmadog a'r Cylch

top
Y Cob

Dysgwch am hanes hen borthladd Porthmadog, pentref Portmeirion a chwedl Gelert a hynodion eraill ardal papur bro Yr Wylan gyda Geraint Lloyd Jones o Benrhyndeudraeth.

Prif dref yr ardal ydi Porthmadog, sydd yn dref wyliau brysur erbyn hyn a'r Wylan yw papur bro y cylch.

Dyma hefyd fan cychwyn Rheilffordd Ffestiniog, a ddefnyddiwyd yn wreiddiol i gludo llechi o chwareli Blaenau Ffestiniog at y llongau i borthladd Porthmadog. Caewyd y rheilffordd yn 1946, ond ail-agorwyd hi i gludo ymwelwyr ym 1955, ac y mae'n denu teithwyr wrth y miloedd bob blwyddyn erbyn hyn.

Wrth deithio i Borthmadog o gyfeiriad Penrhyndeudraeth y mae'n rhaid croesi'r Cob, sef gweledigaeth fawr William Alexander Maddocks a gwblhawyd yn 1813 i sychu 7,000 o erwau o dir y Traeth Mawr i sicrhau tiroedd amaethyddol eang a ffrwythlon.

O ganlyniad i hyn y datblygodd yr harbwr, a'r dref yn ei sgil, ac oddi yno yr allforiwyd llechi Blaenau Ffestiniog i bedwar ban y byd, rhwng 1824 ac 1914 yn arbennig. Datblygwyd diwydiant adeiladu llongau llewyrchus iawn yn y cyfnod yma, ac fe adeiladwyd dros ddau gant a hanner o longau yma i gyd.

Nawdegau'r 19eg ganrif oedd cyfnod aur "Western Ocean Yachts" Porthmadog a oedd yn enwog drwy'r byd am eu prydferthwch a'u hymarferoldeb. Y llong olaf i'w hadeiladu yno oedd y "Gestiana", y sgwner tri mast fyrhoedlog, a gwblhawyd ym Mehefin 1913, ond a gollwyd ger Newfoundland yn Hydref yr un flwyddyn ar ei mordaith gyntaf.

Y mae'r Cob yn nefoedd i naturiaethwyr (adarwyr yn arbennig). Mae'n debyg mai'r adar sydd yn gaeafu ar y Glaslyn yw'r atyniad mwyaf i adarwyr, a gellir gweld niferoedd mawr o adar d诺r a rhydyddion - cornchwiglen, chwiwell, gylfinir ac alarch y gogledd - yn bwydo ar y corsydd a'r mwd.

Eifion Wyn

Hen gartref Eifion WynYn 10, Rhesdai'r Garth, Porthmadog y ganed y bardd Eifion Wyn sy'n enwog am ei delyneg i Gwm Pennant. Treuliodd ran helaethaf ei oes yn 28, Heol Newydd, lle mae nod gyfrin Gorsedd y Beirdd i'w weld uwchben y drws o hyd. Y mae ysgol gynradd y dref ers blynyddoedd bellach yn dwyn ei enw.

Bydd ymwelwyr 芒'r ardal yn heidio bob haf i bentref morwrol Borth-y-gest a thraeth melyn Morfa Bychan, lle roedd cartref Dafydd y Garreg Wen. O Ynys Cyngar gerllaw y byddai'r llongau cynharaf yn llwytho eu llechi oddi ar y badau a'u cludai i lawr y Ddwyryd o Faentwrog cyn adeiladu porthladd ym Mhorthmadog.

脭l gwaith William Alexander

Yr hyn sydd yn eich taro chi yn syth wrth gyrraedd Tremadog o gyfeiriad Porthmadog yw'r stryd lydan a'r sgwar eang, gyda Neuadd y Farchnad drawiadol yn eich wynebu.

Yr argraff a gewch yw mai tref "wneud" ydyw, efallai heb ei gorffen gan mai prin ei bod yn ddigon mawr i'w galw'n dref, ond mae ei thaclusrwydd pensaern茂ol yn gofadail i allu William Alexander Maddocks a'i cynlluniodd.

Ef hefyd a gododd yr eglwys gyda'i th诺r 34 troedfedd o uchder, a dywedir iddo ddod 芒'r porth addurniedig sydd uwchben y fynedfa ar ei gost ei hun o Rimini yn yr Eidal. Mae dau blac yn yr eglwys, y naill i'w gofio ef a'r llall ei oruchwyliwr ffyddlon, John Williams, Tu-hwnt-i'r-bwlch (Porthmadog), a gladdwyd dan lawr yr eglwys.

Man geni Lawrence o ArabiaY t欧 cyntaf ar y dde wrth ddod o Borthmadog yw Woodlands, man geni T E Lawrence (Lawrence o Arabia), a dros y ffordd iddo mae capel Peniel y Methodistiaid Calfinaidd, y capel cyntaf a godwyd ar dir y Traeth Mawr yn 1810. Y mae ei bensaern茂aeth yn drawiadol ac mae'n cael ei warchod gan "Cadw".

Wrth adael "Y Dre" i gyfeiriad Beddgelert byddwn yn pasio Plas Tan yr Allt, cartref Maddocks a lle bu'r bardd Saesneg Percy Bysshe Selley yn aros rhwng 1812 ac 1813. Yn fuan wedyn down at gaffi Bwlch y Moch sydd yn cael ei gadw gan y dringwr byd-enwog, Eric Jones, ac mae'r creigiau serth uwchben y ffordd yn y fan hyn yn atynfa boblogaidd iawn i ddringwyr o bell ac agos.

Ci ffyddlon Llywelyn

Wrth fynd yn ein blaen drwy bentref Prenteg i gyfeiriad Beddgelert byddwn yn dilyn glannau Afon Glaslyn. Ar ochr arall yr afon, ym mhlwyf Llanfrothen, y mae plasdy Ynysfor, cartref y pac o helgwn enwog, ac mae ei enw yn brawf bod y mor yn dod i fyny yma cyn sychu'r Traeth Mawr.

Ac yna rydym ym Meddgelert, y pentref a anfarwolwyd gan y chwedl am gi'r Tywysog Llewelyn - cyrchfan i filoedd bob blwyddyn at y bedd honedig. Y mae thema'r Ci Ffyddlon i'w chael mewn chwedloniaeth llawer gwlad a derbynir bellach mai gweledigaeth bell-weledol David Pritchard, perchenog cyntaf Gwesty'r Royal Goat yn y pentref yn 1802, oedd cysylltu'r chwedl yma a Beddgelert.

O ganlyniad datblygodd y pentref yn ganolfan dwristaidd o fri fel y mae'r gwestai, y tai gwely a brecwast, y caffis a'r siopau swfenirs niferus yn tystio. Haerir mai T欧 Isaf, sydd ym mherchnogaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, oedd t欧 hela'r Tywysog, ac mae ei enw ar westy yn ymyl y bont.

Ond beth bynnag yw ein syniadau am y chwedl, bu Beddgelert yn ffodus iawn yn ei leoliad o fewn tafliad carreg i fynyddoedd a llynnoedd Eryri. Mae wedi cael ei gymharu, yn gwbl haeddiannol, i bentrefi'r Alpau, a does dim dwywaith nad yw'n un o bentrefi prydferthaf y wlad.

Dylid ymweld ag Eglwys y Santes Fair, sydd ar safle un o briordai hynaf Cymru yn y Canol Oesoedd. Fe'i dinistriwyd ddwywaith gan dan - milwyr Edward y Cyntaf oedd yn gyfrifol am y cyntaf, ac fe'i llosgwyd i'r llawr drachefn yn 1432.

Bydd llengarwyr yn awyddus i weld carreg fedd rhieni yr ysgolhaig a'r bardd, Syr T H Parry-Williams (1887-1975), a lle claddwyd ei lwch yntau a'i briod, Y Fonesig Amy Parry-Williams, ym mynwent yr eglwys.

Yr oedd yn enedigol o Ryd Ddu, lle'r oedd ei dad yn ysgolfeistr, ac yn un o gyn-ddisgyblion disgleiriaf hen Ysgol Ramadeg Porthmadog. Y mae dylanwad ei fro enedigol yn drwm ar ei farddoniaeth.


大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.