大象传媒

Portmeirion - Breuddwyd un dyn

top
Portmeirion

Cyflwyniad i bentref Portmeirion, a'r pensaer Syr Clough Williams-Ellis.

Gallai rhywun feddwl y byddai pentref Eidalaidd yn swatio ar benrhyn ar arfordir Eryri yn edrych yn hynod braidd oddi fewn i'w amgylchfyd.

Ond mae'r cyfosodiad rhyfedd o arddulliau ac adeiladau Portmeirion yn ffrwyth breuddwyd Syr Clough Williams-Ellis, a gynlluniodd y pentref i ddal sylw'r ymwelydd gyda golygfeydd diddorol ble bynnag y bydden nhw'n stopio. Hefyd roedd yn lleoliad perffaith ar gyfer y gyfres deledu The Prisoner yn y 1960au hwyr.

Yn fwy o ffoledd neu gofadail preifat, o'i gychwyn cyntaf, bwriadwyd bod Portmeirion yn arddangos sut y gall safle prydferth gael ei ddatblygu'n gydymdeimladol.

Cynllunio

Dechreuodd Clough Williams-Ellis gynllunio Portmeirion pan oedd ond yn pum neu chwech oed pan oedd wedi penderfynu'n barod ei fod am fod yn bensaer neu'n gynllunydd tref. Yn ei lyfr am y pentref, 'Portmeirion - The Place and its Meaning,' ysgrifennodd, "Rhyw ddiwrnod, yn rhywle, doedd dim amheuaeth y byddwn yn codi grwp o adeiladau ar safle o'm dewis i er mwyn fy modloni fy hun; casgliad a fyddai'n cyflwyno fy syniadau tanllyd o ffitrwydd a llonder ac yn wir bod yn fi fy hun".

Ym 1925, ar 么l archwilio nifer o ynysoedd bychain oddi ar arfordir Prydain, daeth Williams-Ellis o hyd i'r lleoliad perffaith yn agos i'w gartref ym Mhlas Brondanw yng Ngogledd Cymru. Yn wreiddiol galwyd y penrhyn preifat yn Aber I芒, ond newidiodd ef yr enw i Portmeirion: Port i adlewyrchu ei leoliad arfordirol a Meirion i'w leoli yn Sir Feirionnydd. Ym 1926 agorodd y prif dy ar lan y dor fel Gwesty Portmeirion er mwyn ariannu ei fenter. Dros y blynyddoedd cynlluniodd ac ychwanegodd Williams-Ellis nifer o adeiladau i'r pentref, gan orffen ei waith ym 1976, pan oedd dros 90 mlwydd oed.

Castell

Datblygwyd Portmeirion mewn dwy ran, 1926-39 a 1954-72, roedd y toriad yn ganlyniad i wasanaeth William-Ellis yn y rhyfel. Yn wreiddiol cafodd afael ar safle'r pentref presennol, yna'r tir y tu hwnt iddo, ac yna'r tiroedd o gwmpas Castell Deudraeth - a'r 'castell' ei hun. Y perchennog oedd ei ewythr, Syr Osmond Williams, disgynnydd i David Williams, twrnai a'r AS Rhyddfrydol cyntaf dros Feirionnydd.

Mae'r castell gwir wedi hen gael ei ddinistrio a chaiff ei nodi gan gofnod ger gwaelod y Clochdy: "Mae'r t诺r hwn, a adeiladwyd ym 1928 gan Clough Williams-Ellis, pensaer a phublican, yn cynnwys cerrig o'r castell o'r 12eg ganrif a oedd yn eiddo i'w gyndad Gryffyrd ap Cynan, Brenin Gogledd Cymru, a safai ar fryn 150 llathen i'r gorllewin. Cafodd ei chwalu tua 1869 gan Syr William Fothergill Cook, dyfeisydd y Telegraff Trydan, "yn lle bod yr adfeilion yn dod yn wybyddus gan ddenu ymwelwyr i'r fan." Felly mae'r sarhad hwn yn y 19eg ganrif i'r 12ed ganrif yn cael ei unioni'n gyfiawn yn yr 20ed ganrif".


大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.