Baner Owain Glynd诺r
03 Chwefror 2010
Roedd gan ei arfbais ei hun, sef cynllun pedwar llew ar gefndir coch ac aur, yn ystod ei wrthryfel deng mlynedd yn erbyn y Saeson yn y 15fed ganrif.
Byddai'r arfbais wedi ymddangos ar faneri ac hefyd ar darianau.
Mae rhai yn cymysgu baner Glynd诺r gydag arfbais h欧n Teyrnas Gwynedd, oedd hefyd yn cynnwys pedwar llew ar gefndir coch ac aur. Hwn oedd arfbais bersonol Llywelyn Fawr.
Ond mae gwahaniaeth yn y ddwy arfbais. Mae llewod tywysogion Gwynedd ar osgo sy'n cael ei alw mewn herodraeth yn 'passant gardant' (yn cerdded gydag un bawen oddi ar y llawr a'r wyneb wedi ei droi tuag atom) tra mae llewod Glynd诺r yn 'rampant' (un neu ddwy goes ar y llawr ac un bawen yn barod i daro).
Mae'n bosib felly mai cyfuniad o arfbais Powys Fadog a'r Deheubarth yw cynllun Glynd诺r gan ei fod yn hanu o deulu brenhinol Powys ar ochr ei dad (Gruffudd Fychan II, Arglwydd Glyndyfrdwy) a'r Deheubarth ar ochr ei fam (Elin, o dras yr Arglwydd Rhys ap Gruffudd o deyrnas y Deheubarth). Arfbais Powys Fadog oedd llew coch ('rampant') ar gefndir aur tra bod arfbais Deheuebarth yn dangos llew aur ('rampant') ar gefndir coch.
Er hyn, mae'n bosib fod Glynd诺r wedi dewis cynllun oedd yn ymdebygu i nod tywysogion Gwynedd, sef arweinwyr cynhenid olaf Cymru, a thrwy wneud ei lewod yn rhai ymosodol, ei fod yn gwneud datganiad clir i frenin Lloegr.
Yn y blynyddoedd diweddar mae'r faner wedi ei hadfywio fel symbol o hunaniaeth Gymreig gyda rhai sefydliadau yn chwifio'r faner ar Ddydd Owain Glynd诺r, sef Medi 16 - y diwrnod yn 1400 pan y'i cyhoeddwyd yn 'Dywysog Cymru'. Mae'n cael ei chwifio mewn digwyddiadau cenedlaethol diwylliannol ac ym maes chwaraeon.
Dywedir fod Glynd诺r yn cario baner draig aur ar gefndir gwyn i faes y gad.
Mwy
Cysylltiadau Rhyngrwyd
Hanes Cymru
Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.