Cennin a Chennin Pedr
02 Chwefror 2010
'Gwisg genhinen yn dy gap, a gwisg hi yn dy galon'. Mae'r genhinen a'r genhinen Bedr ill dau yn symbolau Cymreig. Maent yn cael eu gwisgo i ddathlu
Y Genhinen
Yn nyddiau Shakespeare roedd y genhinen yn cael ei chydnabod fel arwyddlun i Gymru. Yn ei ddrama King Henry V yn 1598, dywed y brenin wrth Fluellen (Llywelyn) ei fod yn gwisgo'r genhinen gyda balchder 'gan ei fod yn Gymro'.
Ond mae s么n am y genhinen fel symbol yn mynd n么l yn gynharach na hyn. Mae cyfeiriad yn 1537 at y dywysoges Mari Tudur, merch Harri VIII, yn cael cennin gan iwmyn y gard i ddathlu Dydd G诺yl Dewi.
Mae lliwiau gwyrdd a gwyn y genhinen yn cydweddu 芒'r rhai a welir ar gefndir baner y ddraig goch. Dyma oedd lliwiau'r lifrai a wisgai milwyr Cymreig Edward I yn Fflandrys yn 1297, ac yn ddiweddarach gan filwyr Edward, Tywysog Cymru yn 1346-47.
Cyfeiriodd y bardd Michael Drayton (1563 - 1631) at stori sy'n cysylltu'r genhinen 芒 Dewi Sant yn un o'i gerddi. Yn 么l Drayton, gorchmynnodd Dewi Sant i'w filwyr wisgo'r llysieuyn ar eu helmedi tra mewn brwydr yn erbyn y Sacsoniaid - mewn cae llawn o gennin!
Mae aml i gofnod o'r Cymry'n defnyddio'r genhinen fel cynhwysyn coginio yn ogystal ag ar gyfer rhinweddau meddygol. Credir bod Meddygon Myddfai o Sir Gaerfyrddin yn yr Oesoedd Canol yn ei ddefnyddio i iach谩u nifer o afiechydon. Credid ei fod yn gwella annwyd, yn amddiffyn yn erbyn clwyfau mewn rhyfel ac yn cynorthwyo merched wrth roi genedigaeth.
Cenhinen Bedr
Daeth y Genhinen Bedr neu'r daffodil yn gysylltiedig gyda Dydd G诺yl Dewi yn y 19eg ganrif. Er i'r genhinen (llysieuyn) fod yn arwyddlun cenedlaethol ganrifoedd yn gynharach, cred rhai bod dryswch wedi bod gyda'r enw, ac mai'r genhinen Bedr yw gwir symbol Cymru.
Roedd David Lloyd George yn gefnogol o'r genhinen Bedr, a gwisgodd y blodyn yn arwisgiad Tywysog Cymru, Edward VIII, yn 1911.
Heddiw, mae'n gyffredin iawn i weld Cennin Pedr neu Gennin yn cael eu gwisgo i ddathlu Dydd G诺yl Dewi.
Mwy
Hanes Cymru
Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.