大象传媒

Y Prif Weinidog, Winston Churchill, yn siarad ar radio'r 大象传媒 yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Cymru a'r Ail Ryfel Byd 1939 - 1945

16 Hydref 2008

Wedi blynyddoedd o nerfusrwydd am dwf y Nats茂aid a'u bygythiad i heddwch yn Ewrop, cyhoeddodd Ffrainc a Phrydain, dan arweinyddiaeth Winston Churchill, ryfel yn erbyn yr Almaen ar 3 Medi 1939 wedi i Hitler ymosododd ar Wlad P诺yl ddeuddydd ynghynt .

Cyn i'r brwydro ddod i ben yn 1945, roedd 15,000 o Gymry wedi eu lladd yn yr Ail Ryfel Byd a phum catrawd Cymreig wedi bod yn rhan o'r brwydro.

Parhaodd cyrchoedd awyr yr Almaenwyr ar ddinasoedd Prydain drwy gydol y rhyfel ac er bod nifer wedi credu y byddai Cymru'n ddiogel rhag y cyrchoedd yma, nid felly roedd hi. Caerdydd oedd y ddinas gyntaf yng Nghymru i gael ei bomio ym mis Mehefin 1940, ond Abertawe ddioddefodd yr ymosodiad mwyaf dwys pan gafwyd tair noson o fomio trwm ym mis Chwefror 1941 gan ladd cannoedd a dinistrio canol y ddinas. Bu cyrchoedd tebyg ar Ddoc Penfro hefyd.

Ond ni ddioddefodd Cymru cynddrwg 芒 rhai o ddinasoedd ac ardaloedd diwydiannol Lloegr gan y blitz - bomiwyd Llundain, gan gynnwys Palas Buckingham, a dinistriwyd dinas Coventry bron yn llwyr. Lladdwyd tua 40,000 o ddinasyddion Prydain gan y cyrchoedd.

Oherwydd y bomio ar y dinasoedd mawr, penderfynodd y Llywodraeth anfon plant i ddiogelwch cefn gwlad ymhell o s诺n y bomiau. Anfonwyd dros 100,000 o 颈蹿补肠颈飞卯蝉 i loches yng Nghymru, i gefn gwlad yn enwedig - plant o Birmingham, Birkenhead a Lerpwl yn bennaf.

Gyda chynifer o ddynion ifanc wedi gadael i fynd i'r fyddin, roedd prinder gweithwyr i weithio yn y pyllau glo, oedd erbyn hyn yn cael eu rhedeg gan y Llywodraeth. Felly yn 1943, galwyd un o bob deg g诺r ifanc 18 oed i weithio dan ddaear yn hytrach nag i'r fyddin er mwyn sicrhau bod y cyflenwad glo yn parhau. Galwyd nhw'n Bevin Boys, ar 么l Ernest Bevin, y Gweinidog dros Waith a'r Gwasanaeth Gwladol. Daeth nifer o Saeson dosbarth canol a gweithiol, yn ogystal 芒 Chymry, i feysydd glo caled de Cymru, pobl fel .

Ymunodd nifer o ferched 芒'r Fyddin Dir er mwyn sicrhau bod bwyd yn dal i gael ei gynhyrchu tra roedd y dynion yn ymladd yn y fyddin ac oherwydd y dogni ar fwyd dysgodd pobl i fyw yn gynnil a gwneud y gorau o'r bwyd oedd ar gael.

Roedd canran y menywod oedd yn ymuno 芒'r gweithlu yn uwch yng Nghymru nag yn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig ac fe wnaeth y rhyfel ddatrys, dros dro, rai o broblemau diweithdra dirwasgiad y 1920au a'r 1930au.

Sefydlwyd nifer o ddiwydiannau rhyfel yng Nghymru, gan gynnwys stordai arfau enfawr ym Mhenybont ar Ogwr a ffatri fomiau gyfrinachol yn Rhydymwyn ger yr Wyddgrug.

Pan gyhoeddodd y Prif Weinidog, Winston Churchill, bod yr Ail Ryfel Byd drosodd ar 8 Mai 1945, cafwyd dathliadau ar hyd a lled y wlad i ddathlu Diwrnod VE - Victory in Europe.

Ond parhaodd effaith yr Ail Ryfel Byd a'r cof amdano am genedlaethau i ddod.

Erthyglau eraill:


Anfonwyd tri theulu n么l i fyw mewn cymuned lofaol yn Ne Cymru yn 1944.

Gogledd ddwyrain

Arfau cemegol

Ffatri gemegau

Cyfrinach hen safle arfau cemegol o'r Ail Ryfel Byd ger yr Wyddgrug.

Gogledd orllewin

Milwyr yn yr Aifft

Straeon rhyfel

O warchod yr Arglwydd Haw Haw i suddo llongau tanfor: atgofion lleol.

Canolbarth

Parti stryd

Diwrnod VE

Dathlu diwedd y rhyfel ac atgofion 颈蹿补肠颈飞卯蝉 gan bobl y canolbarth.

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.