大象传媒

Y Rhyfel Cartref a Brwydr Sain Ffagan

Darlun gan Benjamin West o Cromwell yn diddymu'r Senedd Hir

gan Catrin Stevens

Rhwng 1642-6 a 1648-9 bu Charles I a'i fyddin o Frenhinwyr yn ymladd yn erbyn byddin y Seneddwyr, neu'r Pengryniaid, ledled Prydain. Y frwydr bwysicaf a ymladdwyd yng Nghymru oedd Brwydr Sain Ffagan ar 8 Mai 1648.

Beth oedd achosion y Rhyfel Cartref?

Roedden nhw'n gymhleth, ond dyma'r prif rai:

  • dadl yngl欧n 芒 phwy oedd 芒'r hawl i reoli Prydain. Roedd y Brenin Charles I yn credu bod ganddo fe 'Hawl Ddwyfol' (sef bod Duw wedi rhoi'r hawl iddo) i reoli ac y gallai wneud hynny heb y Senedd, ond, wrth gwrs, doedd y Senedd ddim yn cytuno.
  • roedd Charles I yn Uchel-Eglwyswr a thrwy Laud, Archesgob Caergaint, yn gwthio defodau uchel-eglwysig ar y bobl. Roedd ofn ei fod e'n mynd i droi'n Babydd hyd yn oed. Roedd llawer o'r Seneddwyr, ar y llaw arall, yn Biwritaniaid ac yn erbyn defodau uchel-eglwysig.
  • gan fod Charles I yn gwrthod galw cyfarfod o'r Senedd, a bod angen arian arno, ceisiodd godi arian trwy ddefnyddio hen ddeddf i drethu llongau. Roedd ei bolis茂au economaidd yn amhoblogaidd iawn.

Rhwng popeth ffrwydrodd Rhyfel Cartref yn Awst 1642.

Beth oedd ymateb y Cymry?

  • Roedd yr uchelwyr o blaid y Brenin. Cyfrannodd Iarll Worcester, castell Rhaglan, 拢750,000 at goffrau Charles I.
  • Dim ond dwy ardal o Gymru, sef de Penfro (trwy ddylanwad Bryste ac Iarll Essex) a Wrecsam (lle'r oedd Thomas Myddleton, Y Waun, yn arwain ei byddin), a dim ond pum Aelod Seneddol Cymreig, oedd o blaid y Senedd.
  • Roedd mwyafrif y Cymry braidd yn ddifater ac yn amharod i aberthu dros y naill ochr na'r llall.

Hynt a helynt y brwydro yng Nghymru

Y Rhyfel Cartref cyntaf (1642-6/7)

Cwympodd Castell Rhaglan yn 1646

Pendilio o un ochr i'r llall fu hanes y brwydro. Yn y de, bu'r Brenhinwr Richard Vaughan, Gelli Aur, yn fuddugoliaethus yn 1643, ond yna cafodd ei orchfygu yn 1644 gan luoedd y Seneddwr, Rowland Laugharne. Cafodd yntau'i drechu yn ei dro gan Charles Gerard ar ran y Brenin. Ond pan gwympodd castell Rhaglan yn 1646, enillodd y Senedd oruchafiaeth dros holl siroedd de Cymru.

Yn y gogledd, llwyddodd Myddleton i ymestyn dylanwad y Senedd yn raddol, a phan ildiodd y Brenhinwyr gastell Harlech yn 1647, y Seneddwyr oedd yn ben yno hefyd.

Yr Ail Ryfel Cartref 1648-9 a Brwydr Sain Ffagan

Gydol y Rhyfel Cartref cyntaf bu tri g诺r yn allweddol o blaid y Senedd yn y de-orllewin: John Poyer, llywiawdwr castell Penfro; Rhys Powell, llywiawdwr castell Dinbych-y-pysgod a Rowland Laugharne. Ond, ar 么l y rhyfel, digion nhw, achos doedd y Senedd ddim yn barod i dalu cyflogau'r milwyr yn llawn. Pan geisiodd y Senedd ddiswyddo Poyer, penderfynodd ef a Powell newid ochr a chefnogi'r Brenin.

Dyma ddechrau'r Ail Ryfel Cartref yn 1648. Cipiodd Poyer a Powell Gaerfyrddin, Abertawe a Chastell-nedd, cyn cyrraedd cyffiniau Caerdydd. Yno, ymunodd Laugharne 芒 nhw i herio Byddin Fodel Newydd y Senedd, dan arweiniad Thomas Horton.

Ailgread o fyddin y Seneddwyr
Bu'r Seneddwyr yn fuddugol yn Sain Ffagan

Yn nyffryn El谩i, ger Sain Ffagan, ar 8 Mai 1648, roedd 8,000 o Frenhinwyr yn wynebu 3,000 o Seneddwyr. Rhwng y ddwy fyddin roedd Nant Dowlais. Am saith y bore anfonodd Laugharne 500 o w欧r traed ar draws y nant i ymosod ar ran ganol byddin Horton, ond llwyddodd y gw欧r meirch i'w hatal.

Roedd cloddiau uchel yn rhwystro'r gw欧r meirch hyn rhag ymosod, ond llwyddodd dragwniaid y Senedd i yrru dwy asgell byddin y Brenhinwyr yn eu holau. Yna, rhuthrodd gw欧r meirch y Senedd i ymosod ar esgyll de ac 么l y Brenhinwyr. Cafodd y rhain ofn mawr a dechreuon nhw ffoi. Cawson nhw'u herlid am saith milltir. Cafodd tua 200 eu lladd a 3,000 eu cipio yn garcharorion. Chafodd dim llawer o filwyr y Senedd eu lladd.

Ar 么l y methiant trychinebus, ffodd yr arweinwyr yn 么l i Benfro. Erbyn hyn, roedd Oliver Cromwell a'i fyddin wedi cyrraedd Cymru. Er i Benfro wrthsefyll gwarchae am ddau fis, yn y diwedd bu'n rhaid iddyn nhw ildio. Cafodd y tri arweinydd eu dedfrydu i farwolaeth am fradychu'r Senedd. Ond dadleuodd nifer o'u plaid a phenderfynwyd tynnu blewyn cwta i gosbi dim ond un ohonyn nhw. Poyer oedd yr enillydd anffodus hwnnw, a chafodd ei saethu yn Covent Garden ar 25 Ebrill 1649, dri mis ar 么l i'r Brenin Charles I gael ei ddienyddio yn Whitehall.


About this page

This is a history page for schools about the Welsh battles of the English Civil War. Loyalties were split between supporters of the King and supporters of Parliament. The most famous battle in Wales was the battle of St Fagans in 1648, won by the Parliamentarians. Click on the Vocab button at the top of the page for help with Welsh translation.

Gwefannau hanes ar gyfer plant cynradd, uwchradd ac athrawon.

eClips

Clipiau fideo a sain o archif y 大象传媒 am bob pwnc ar gyfer pob oedran.

Bywyd

Llun o stori Antur Sabrina

Chwedlau

Chwedlau hen a newydd, gan gynnwys y Mabinogi, a gemau hwyliog.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc 漏 Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.