gan Catrin Stevens
Rhwng 1603 ac 1702 bu brenhinoedd o deulu Stiwart o'r Alban yn teyrnasu dros Brydain, ac eithrio yn ystod cyfnodau'r Rhyfeloedd Cartref (1642-9) a'r Werinlywodraeth (1649-60).
Roedd Cymru'n wlad wledig yn y cyfnod hwn. Roedd amodau byw yng nghefn gwlad ac yn y trefi marchnad bychain yn wael iawn, gyda thomennydd sbwriel a charthion yn gyffredin. Cyfartaledd oedran marwolaeth oedd 35 mlwydd oed, ac roedd cyfraddau marwolaeth ymysg babanod yn uchel iawn, e.e. bu farw pob un ond un o naw plentyn Syr Richard Bulkeley (m.1621).
C芒i hen wragedd truenus eu cyhuddo o fod yn wrachod a'u rhoi ar brawf trwy eu trochi mewn st么l drochi, fel y Gadair Goch yn Nolgellau. Ond chafodd gwrachod mo'u hela'n greulon yng Nghymru, fel yng ngwledydd eraill Ewrop. Dim ond pum gwrach a gafodd eu crogi, yr olaf ohonyn nhw, Marged ferch Rhisiart, ym Miwmares, yn 1658.
Ceisiodd yr Hen Ficer Prichard o Lanymddyfri, rybuddio'r Cymry rhag pechodau'r oes trwy ysgrifennu cerddi syml, poblogaidd. Cafodd casgliad ohonyn nhw eu cyhoeddi yn Canwyll y Cymru yn 1681.
Gwaith
Fel y daw ei llynges 芒 thrysor i Sbaen, felly y daw'r porthmyn 芒'r ychydig aur ac arian sydd gennym ni
Archesgob John Williams
Roedd cyflwr y ffyrdd yn dal yn erchyll yn y cyfnod hwn. Yn wir, c芒i sir Frycheiniog ei galw yn 'Breakneckshire'. Eto, llwyddai'r porthmyn i yrru gyrroedd o wartheg a defaid i'w gwerthu yn Llundain. Pan oedd y Rhyfel Cartref yn rhwystro teithiau'r porthmyn yn 1645, eglurodd yr Archesgob John Williams pam eu bod mor bwysig i economi Cymru, 'Fel y daw ei llynges 芒 thrysor i Sbaen, felly y daw'r porthmyn 芒'r ychydig aur ac arian sydd gennym ni'.
Gweithiai 80% o'r bobl ar y tir. Ond roedd diwydiannau yn datblygu hefyd, gyda gwaith plwm Syr Roger Mostyn yn sir y Fflint, plwm ac arian yng Ngheredigion a glo ym Mhenfro. Agorodd Syr Humphrey Mackworth lofeydd yng Nghwm Nedd, ac erbyn yr 1730au, trwy ddefnyddio'r glo i fwyndoddi plwm ac arian a oedd wedi'u mewnforio, daeth ardal Abertawe-Castell-nedd yn ganolfan fetelegol fwyaf y byd.
Dylanwad y m么r
Dyma oes aur y m么r-ladron Cymreig. Yn eu plith roedd Hywel Davies o sir Benfro a Tomos Prys o Blas Iolyn, uchelwr a bardd a groniclodd ei helyntion mewn cerddi dychanol.
Ond y ddau enwocaf oedd Syr Harri Morgan o sir Fynwy a Bartholomew Roberts, neu Barti Ddu, o Gasnewydd- bach. Bu Harri Morgan yn uchel-swyddog i'r Goron ac yn f么r-leidr yn ei dro. Dinistriodd lynges o Sbaen ger Maracaibo yn 1669 a chipio Panama ac ysbail gwerth 拢30,000 yn 1670.
Er bod Barti Ddu yn f么r-leidr o fri ac iddo gael ei ladd mewn brwydr ger arfordir Affrica, mae'n debyg mai te oedd ei hoff ddiod ac nad oedd e'n caniat谩u i'w griw weithio ar y Sul!
Crefydd
Roedd crefydd yn bwnc llosg iawn yng nghyfnod y Stiwartiaid. C芒i Pabyddion eu herlid yn ddidrugaredd oherwydd bod y llywodraeth yn ofni eu bod yn cynllwynio yn erbyn y brenin. Yn 1679, cafodd David Lewis o'r Fenni, Phillip Evans o Fynwy a John Lloyd o Frycheiniog eu merthyru am geisio ennill y Cymry'n 么l i Eglwys Rufain. Yn 1970, dyrchafodd y Pab y tri merthyr yma yn seintiau Catholig.
Ar y pegwn arall, roedd nifer yn feirniadol o Eglwys Loegr am fod gormod o seremon茂au ganddi. Trodd y rhain yn anghydffurfwyr. Ymunodd rhai 芒'r Annibynwyr a rhai eraill 芒'r Bedyddwyr, dan arweiniad John Miles. Sefydlodd e eglwys i'r Bedyddwyr yn Llanilltud G诺yr yn 1649.
Yn ystod cyfnod y Werinlywodraeth (1649-60), trwy'r Ddeddf er Taenu'r Efengyl yng Nghymru, bu Piwritaniaid fel Vavascor Powell a Walter Craddock yn cyflogi dynion duwiol i bregethu'r efengyl ar draws y wlad, ond heb lawer o lwyddiant. Trodd y Piwritan, Morgan Llwyd, at y Crynwyr, ac mae'i glasur, Llyfr y Tri Aderyn (1653), yn annog y Cymry i baratoi ar gyfer ailddyfodiad Crist i'r ddaear.
Ar 么l adfer y frenhiniaeth yn Chwyldro Gogoneddus 1660, cafodd y sectau hyn eu herlid yn ddifrifol. Bu'r Crynwr, Charles Lloyd o Ddolobran, Powys, ac eraill yn y carchar am flynyddoedd am arddel eu ffydd.
Yn y pen draw, penderfynodd llawer o'r Crynwyr chwilio am ryddid crefyddol yn nhrefedigaeth newydd William Penn yn Roedd 40 o Gymry ar y fordaith gyntaf yn 1682. Bu Thomas Lloyd o Ddolobran yn ddirprwy i Penn ei hun yn y drefedigaeth newydd. Y bwriad oedd sefydlu trefedigaeth Gymreig annibynnol yn Pennsylvania, ond chafodd y freuddwyd honno mo'i gwireddu.
Mwy
Cysylltiadau'r 大象传媒
Cysylltiadau Rhyngrwyd
About this page
This is a history page for schools about Wales during the reign of the Stewarts. Wales was a rural country, living conditions were bad and life expectancy short. Religious groups such as the Quakers were persecuted because of their beliefs. Click on the Vocab button at the top of the page for help with Welsh translation.
Hanes Cymru
Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.