Beth
Nesa Ar Ôl AVCE?
Rhai sy’n
ymadael â’r ysgol â AVCE
Er bod arolygon
cenedlaethol yn dangos fod mwyafrif o’r rhai sy’n ymadael â’r ysgol
â'r hen GNVQ yn mynd ymlaen i Addysg Uwch aeth tua 40% i waith neu
hyfforddiant. Fodd bynnag, roedd hyn yn amrywio yn ôl y pwnc.
Fel y byddet
yn dyfalu, mae’r rhan fwyaf o bobl ifanc sy’n ymadael ag AVCE yn
mynd ar gyrsiau AU neu i swyddi perthnasol i’w pwnc, ond mae hyn
eto yn amrywio rhwng pynciau.
TIP
TANBAID!
|
I
gael gwybod mwy am yr hyn ddigwyddodd i bobl sydd wedi cymryd
gwahanol gyrsiau GNVQ, siarada â chynghorwyr gyrfaoedd, tiwtoriaid
cyrsiau GNVQ a chyn-fyfyrwyr. Fydd y rhifau ar gyfer TAAU
newydd ddim are gael tan 2003.
|
Rhai sy’n ymadael â’r ysgol â GNVQ Canolradd
neu Sylfaen
Mae mwyafrif
o’r myfyrwyr GNVQ Canolradd/Sylfaen yn parhau â’u haddysg bellach
gan symud i’r lefel GNVQ/AVCE nesaf yn yr un pwnc fel arfer.
Mae lleiafrif
sylweddol yn mynd i swyddi neu hyfforddiant. Gan fod cyrsiau GNVQ
Sylfaen a Chanolradd yn cyfateb i TGAU, mae’r math o gyfleoedd swyddi
a fydd yn agored i ti yn debyg i’r rheini sy’n agored i’r rhai sy’n
ymadael â’r ysgol ym Mlwyddyn 11 gyda TGAU. Fodd bynnag, byddi di’n
hun, yn fwy aeddfed a bydd gen ti’r wybodaeth a’r sgiliau ychwanegol
a ddaw yn sgîl dilyn cwrs gwerthfawr sy'n canolbwyntio ar ardal
gyrfa.
Os byddi di’n ymadael â’r ysgol neu’r coleg cyn
cyrraedd 18 oed rwyt ti’n dal yn ddigon ifanc i fod â hawl i le ar gynlluniau hyfforddi sy'n cael eu cyllido
gan y llywodraeth – cynlluniau fel Prentisiaethau Modern a Rhaglenni Hyfforddi Cenedlaethol.
|