´óÏó´«Ã½


Explore the ´óÏó´«Ã½

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Nôl i'r dudalen gartref
swyddi sgiliau hyfforddiant addysg uwch addysg bellach

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



´óÏó´«Ã½ Homepage

Cymru'r Byd
Addysg
» Jyst y Job
Swyddi
Sgiliau
Hyfforddiant
Addysg Uwch
Addysg Bellach
Siarad o brofiad


Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Hyfforddiant yn y gwaith
 


Rhaglenni hyfforddi Ceiswyr Sgiliau

Prentisiaethau Modern a Prentisiaethau Modern Cyflym

Ffeil ffeithiau

  • Hyfforddiant hyd at NVQ 3 (NVQ 4 weithiau)
  • Mae’n cynnwys hyfforddiant Sgiliau Allweddol
  • Efallai y byddai’n rhaid i ti fynd i’r coleg yn rhan-amser
  • Efallai y bydd rhaid i ti basio rhai TGAU, yn enwedig Saesneg a Mathemateg. Yn aml mae’n rhaid cael TGAU Gwyddoniaeth ar gyfer swyddi peirianneg/technegol.
  • Fel arfer, mae’r hyfforddiant yn para tua tair blynedd ond gall gymryd llai gyda Prentisiaeth Modern Cyflym.
  • Weithiau, gall arwain at gyrsiau AU.
  • Cyflogir prentisiaid gan gwmnïau lleol ac fe delir cyflog iddynt.
Siarad o brofiad...

Mae cael ein hasesu drwy'r tymor yn beth da, yn hytrach na chael un arholiad mawr ar y diwedd. mwy>>

Huw Jones

Rhaglenni Hyfforddi Cenedlaethol

Ffeil ffeithiau

  • Hyfforddiant hyd at NVQ lefel 2
  • Mae’n cynnwys hyfforddiant Sgiliau Allweddol
  • Efallai y byddai’n rhaid i ti fynd i’r coleg yn rhan-amser
  • Mae TGAU yn fantais ond mae parodrwydd i ddysgu yr un mor bwysig
  • Fel arfer, mae’r hyfforddiant yn para tua dwy flynedd ond gall gymryd llai.
  • Gellir symud ymlaen i Brentisiaeth Fodern
  • Fel arfer, cyflogir hyfforddeion gan gwmnïau lleol ac fe delir cyflog iddynt. Os nad wyt ti’n cael cyflog byddi’n cael lwfans hyfforddi.
Siarad o brofiad...

Mae pob cwrs yn para blwyddyn. Mae'r tiwtor yn fy asesu tra dwi'n gweithio. mwy>>

Jennifer Lee

Adeiladu Sgil

Mae ‘Adeiladu Sgil’ yn cynnig nifer o ffyrdd i ti ennill hyfforddiant a sgiliau chwilio am waith, gwella dy sgiliau sylfaenol, cael blas ar wahanol fathau o waith a gwella dy hunan hyder. Fe fydd ‘Adeiladu Sgil’ yn dy alluogi i gael NVQ lefel 1 mewn math arbennig o waith. Gallet ddewis gwneud cwrs ‘Camu i Fyny’. Fe fydd hyn yn gadael 13 wythnos i roi cynnig ar un neu fwy i dy helpu i benderfynnu a yw’r math yma o waith yn gweddu i ti. Gallet hyd yn oed roi cynnig ar y Fyddin neu’r Llynges ar ‘Adeiladu Sgil’. Fe gei lwfans hyfforddi tra rwyt ar ‘Adeiladu Sgil’ - £45 yr wythnos fel arfer. Pan rwyt yn barod gallet gael Swydd dan Hyfforddiant Cenedlaethol ac ennill NVQ lefel 2 neu hyd yn oed Brentisiaeth Fodern a chael NVQ lefel 3.

Siarad o brofiad...

Fe wnes i ddewis rhaglen Adeiladu Sgil oherwydd mae'n well gen i hyfforddiant ymarferol. mwy>>

Dewi Thomas

TIP TANBAID!

Os wyt ti’n 16 neu’n 17 ac mewn swydd amser llawn yn barod, efallai y bydd gen ti hawl i amser oddi ar y gwaith i astudio neu gael hyfforddiant tuag at gymhwyster o dan y ddeddf newydd Amser Oddi Ar y Gwaith i Astudio neu i Gael Hyfforddiant.

 

Lincs

Hefyd...
NVQs
Amser o'r gwaith i astudio

Cam nesa...
Sgiliau ar gyfer gwaith
Swyddi


randomly included tips

randomly included tips

anfona egerdyn!


top

swyddi

sgiliau

hyfforddiant

add. uwch

add. bellach

sgwrs