Pa lefelau TAG Uwch/AS ddylwn i eu cymryd?
Mae yna lu o bynciau lefel TAG Uwch/AS i ddewis o’u plith.
Gelli gario ymlaen â phynciau TGAU neu ddewis rhai ‘newydd’ fel gwleidyddiaeth neu seicoleg. Dylet ystyried
.....
Pa bynciau fyddwn i’n eu mwynhau?
Os oes gen ti ddiddordeb, bydd gen ti fwy o gymhelliad.
Pa bynciau fyddwn i’n gwneud yn dda ynddyn nhw?
Mae graddau da yn hollbwysig, yn enwedig i gael lle mewn prifysgol.
Pa bynciau fydd eu hangen arna’ i?
Gall rhai pynciau TAG Uwch/AS, yn enwedig mathemateg a gwyddoniaeth, effeithio ar ddewisiadau AU a dewisiadau
gyrfaol. Bydd gofyn cael pynciau penodol ar gyfer rhai cyrsiau. Os wyt ti’n ansicr, hola! Edrych yn y prospectws neu cael cip ar y wefan UCAS - www.ucas.com.
Oes rhai pynciau’n mynd gyda’i gilydd?
Oes, rhai fel:
- bywydeg a chemeg
- mathemateg (gyda mecaneg) a ffiseg
-
economeg a mathemateg (gydag ystadegau)
-
astudiaethau chwaraeon/addysg gorfforol a bywydeg
Pynciau lefel TAG Uwch
poblogaidd
- Addysgol Gorfforol/Astudiaethau Chwaraeon
-
Almaeneg
-
Astudiaethau Busnes
-
Astudiaethau Crefyddol
-
Astudiaethau Cyfrifiadurol/Gwyddoniaeth
-
Astudiaethau Ffilm
-
Astudiaethau’r Cyfryngau
-
Bywydeg
-
Bywydeg Ddynol
-
Celf/Dylunio
-
Cemeg
-
Cerddoriaeth
-
Cymdeithaseg
-
Cymraeg
-
Daearyddiaeth
-
Drama/Astudiaethau Theatr
-
Economeg
-
Economeg y Cartref (Bwyd a/neu Decstilau)
-
Ffiseg
-
Ffrangeg
-
Gwleidyddiaeth a Llywodraeth
-
Hanes
-
Iaith Saesneg
-
Mathemateg
-
Saesneg (Llenyddiaeth)
-
Sbaeneg
-
Seicoleg
-
Technoleg
-
Y Gyfraith
Beth nesa ar ôl lefel TAG Uwch/AS?
|