Cwblhau'r Datganiad Personol
Y datganiad personol yw dy gyfle mawr di i werthu
dy hun i diwtoriaid derbyn. Does dim unrhyw ffordd unigol, berffaith o wneud hyn, ond dyma rai awgrymiadau.
Am beth y dylwn i sgrifennu?
- Y rhesymau am ddewis y cyrsiau sydd ar dy ffurflen.
- Y cefndir i dy ddiddordeb di yn y pwnc/pynciau hyn.
- Diddordebau arbennig sydd gen ti yn dy astudiaethau
ar hyn o bryd. Unrhyw prosiectau arbennig wedi ei cwblhau neu unrhyw trips ysgol ac ymweliadau.
- Unrhyw gyflogaeth, profiad gwaith, neu waith gwirfoddol rwyt ti wedi ei wneud, yn enwedig
os yw’n berthnasol i dy gwrs.
- Unrhyw Sgiliau
Allweddol sydd gen ti.
- Unrhyw beth arall rwyt ti wedi ei gyflawni e.e. Gwobr Dug Caeredin.
- Dy ddyheadau di
o ran gyrfa.
- Unrhyw bynciau rwyt ti’n eu hastudio nad ydyn nhw’n arwain at arholiad.
- Unrhyw nawdd
neu leoliadau gwaith rwyt ti wedi gwneud cais amdanynt.
- Rhesymau am ohirio cyn mynd i’r coleg a dy gynlluniau
di ar gyfer blwyddyn allan - os yn berthnasol.
- Diddordebau cymdeithasol, chwaraeon neu ddiddordebau
eraill.
Deg awgrym ar sgrifennu dy ddatganiad personol
1. Gwna ymdrech – yn enwedig os wyt ti’n gwneud
cais am gyrsiau poblogaidd neu am gyrsiau galwedigaethol fel meddygaeth neu ddysgu.
2. Dechreua drwy nodi ar bapur unrhyw beth o gwbl
y gelli di feddwl amdano amdanat ti dy hun a allai fod o fudd. Gofynna i dy deulu a dy ffrindiau am syniadau
a defnyddia dy Gofnod Cyrhaeddiad neu Ffeil Cynnydd i dy atgoffa di o’r pethau rwyt ti wedi eu gwneud.
3. Ceisia gysylltu’r hyn rwyt ti’n ei ddweud bob
amser gyda’r cwrs rwyt ti wedi ei ddewis. Paid ag amlhau geiriau am hobïau amherthnasol, sydd wedi hen
fynd yn angof.
4. Os nad wyt ti go-iawn yn gwneud dim ond gwylio’r
teledu, canolbwyntia ar dy astudiaethau cyfredol a dy resymau am ymgeisio am y cwrs.
5. Rho fframwaith i dy ddatganiad drwy ddefnyddio
paragraffau a/neu benawdau wedi eu seilio ar yr elfennau a awgrymir uchod. Mae'r llyfr 'Degree Course Offers' gan Brian Heap yn rhoi gwybodaeth am beth sy'n well gyda'r brifysgolion unigol ynglyn a strwythr y datganiad personnol .
6. Paid ag ailadrodd gwybodaeth sy’n ymddangos mewn
man arall ar y ffurflen.
7. Bydda’n llythrennog – sgrifenna’n rhugl gan ddefnyddio
gramadeg a sillafu cywir.
8. Ceisia beidio â swnio fel stereoteip, fel pe
bai athro wedi rhoi templed i ti a thithau heb wneud dim ond llenwi’r bylchau.
9. Dangos
dy ddrafft i rywun arall, fel tiwtor chweched dosbarth neu
goleg neu gynghorydd gyrfaoedd.
10. Defnyddia lawysgrifen fawr, glir (beiro du), neu brosesydd geiriau ag inc du, ffont pwynt 12.
|