Sgiliau Allweddol
Caiff rhai sgiliau eu hadnabod drwy’r wlad fel Sgiliau Allweddol. Dyma’r sgiliau hollbwysig y bydd eu hangen arnat i wneud yn dda mewn addysg a hyfforddiant, i lwyddo yn y gwaith ac i ddod ymlaen mewn bywyd.
Gelli ennill cymwysterau ym mhob un o’r chwe Sgil Allweddol ar lefelau 1 (yr hawsaf) i 5 (yr anoddaf). Mae’r rhan fwyaf o bobl ifanc yn cymryd lefelau 1, 2 neu 3.
Beth yw Sgiliau Allweddol?
Cyfathrebu
- cymryd rhan mewn trafodaethau
- rhoi cyflwyniadau
- darllen a deall gwybodaeth
- ysgrifennu gwahanol fathau o ddogfennau
Defnyddio Rhif
- dehongli gwahanol fathau o wybodaeth
- gallu cyfrifo
- dehongli canlyniadau
- cyflwyno ac egluro canfyddiadau
Technoleg Gwybodaeth
- canfod, dewis a defnyddio gwybodaeth
- archwilio a datblygu gwybodaeth
- cyflwyno gwybodaeth fel testun, delweddau a rhifau
Datrys problemau
- Canfod problemau ac awgrymu gwahanol atebion
- Cynllunio a rhoi prawf ar wahanol opsiynau
- Gwirio a yw’r atebion wedi gweithio
- Adolygu gwahanol ffyrdd o fynd i’r afael â phroblemau
Gweithio gydag eraill
- Gweithio gydag eraill, un-i-un ac mewn grwpiau
- Penderfynu beth rwyt ti am ei gyflawni
- Llunio cynllun a gweithio gydag eraill i gyflawni dy amcanion
- Trafod a chytuno ar welliannau
Gwella dy ddysgu a dy berfformiad dy hun
- Gosod nodau a thargedau ar gyfer gwella
- Cynllunio sut y byddi di’n cyflawni dy dargedau
- Cael cefnogaeth ac atborth oddi wrth bobl eraill
- Adolygu dy gynnydd
- Casglu tystiolaeth am yr hyn rwyt ti wedi ei gyflawni
Pam mae angen Sgiliau Allweddol arna i?
- Sgiliau Allweddol yw’r sgiliau sylfaenol sy’n effeithio ar bopeth arall rwyt ti’n ei wneud.
- Gallant dy helpu i gael graddau uwch.
- Gallant dy helpu i wneud yn well yn y gwaith.
- Mae cyflogwyr, colegau a phrifysgolion yn hoff ohonynt felly maent yn gallu helpi ti ennill swyddi neu le ar gyrsiau.
- Maen’ nhw’n ehangu’r ystod swyddi y gelli di ddewis o’u plith.
- Maen’ nhw’n rhoi hyblygrwydd i ti o ran newid swyddi a symudiadau gyrfaol i’r dyfodol.
- Maen’ nhw hefyd yn ddefnyddiol yn dy fywyd personol.
Cymhwyster Sgiliau Allweddol
Pwyntiau UCAS a'r Sgiliau Allweddol
Ìý
|