大象传媒

Aneirin Karadog

Aneirin Karadog

Pwnc arbenigol: Ffilmiau Superman 1 - 4

Mae Aneirin yn gyflwynydd ar raglen Wedi 7. Mae'n fardd sy'n ysgrifennu mewn cynghanedd ac mae'n adnabyddus am rapio gyda grwpiau fel Y Diwygiad a Genod Droog.

Mae wedi cyhoeddi ei farddoniaeth mewn detholiadau amrywiol gan gynnwys casgliad o farddoniaeth ar y cyd gyda phedwar bardd Cymraeg arall o dan y teitl Crap ar Farddoni.

Fe'i ganwyd yn Llanrwst ac fe'i magwyd yng nghymoedd de Cymru. Mae'n fab i Gymro a Llydawes, ac mae'n siarad pum iaith - Cymraeg, Llydaweg, Ffrangeg, Sbaeneg a Saesneg.

Astudiodd Ffrangeg a Sbaeneg yng Ngoleg Newydd, Rhydychen.

Sefydlodd y rhaglen Gymraeg gyntaf ar y rhyngrwyd, sef Siaradog.

Holi Aneirin

Sut aeth hi yn y stiwdio?

Ar wah芒n i ateb y cwestiynau, iawn! Roedd fy rownd arbenigol yn iawn ond aeth hi o ddrwg i waeth gyda'r wybodaeth gyffredinol.

Oeddech chi'n nerfus wrth eistedd yn y gadair du?

Hynod o nerfus, cymaint nes imi chwysu eitha tipyn yn y gadair, oedd ddim yn neis i weddill y cystadleuwyr wy'n siwr!

Oedd Betsan yn gwneud i chi deimlo'n nerfus?

Dim cymaint Betsan 芒 cherddoriaeth y rhaglen, y spotlight ar y gadair a'r gadair ddu ei hunan. Ro'n i'n reit gyffyrddus yn sgwrsio gyda Betsan rhwng y ddau rownd am fy niddordebau ac yn y blaen, i'r graddau mod i di anghofio pam o'n i yn y gadair wrth sgwrsio 芒 hi!

Pam dewisoch chi eich pwnc arbenigol?

Am fy mod i'n hoff o ffilmiau Superman pan yn fachgen a bod 'na rhywbeth am wisgo tr么ns ar y tu fas sy'n apelio.

Oeddech chi'n hapus efo eich perfformiad?

Fel y soniais, ro'n i'n go hapus 芒'r rownd arbenigol ond fe rewodd fy meddwl yn yr ail rownd.

Felly, sut mae eich gwybodaeth cyffredinol? Ym mha flwyddyn cafodd Owain Glynd诺r ei wneud yn Dywysog Cymru?

139 rhywbeth ...

(Yr ateb cywir yw 1400)


Y Cyflwynydd

Betsan Powys

Betsan Powys

Gwleidyddiaeth yw pwnc arbenigol Betsan Powys tu allan i stiwdio Mastermind.

Y Gyfres

Cadair Mastermind

Y gadair ddu

Mae'r gadair ddu wedi bod yn seren y sioe gwis ers 1972.

Mastermind Plant

Plant yn stiwdio Mastermind

Plant peniog

Pwy yw s锚r y gyfres i blant?

Cwis

Fedrwch chi ateb cwestiynau cyffredinol Mastermind Cymru?


大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.