大象传媒

Dafydd Du

Dafydd Du

Pwnc arbenigol: Hanes Clwb P锚l-droed Llanberis.

Dafydd yw cyflwynydd rhaglen fore newydd 大象传媒 Radio Cymru gydag Eleri Si么n.

Daw'n wreiddiol o Benisarwaen ac aeth i brifysgol Aberystwyth lle graddiodd mewn Ffiseg y Planedau a'r Gofod.

Symudodd i Gaerdydd dros 10 mlynedd yn 么l, a chafodd y cyfle i gyflwyno rhaglen wyddoniaeth i blant o'r enw Pantecnicon ar S4C.

Ar 么l y rhaglen deledu, cafodd gyfleoedd i gyflwyno rhaglenni Radio Cymru fel Gwell Hwyr Na Hwyrach, Tonfedd, Paid a Bod Ofn, Ram Jam a Ram Jam Sadwrn, yn ogystal 芒 sawl sioe allanol fawr a rhaglenni o wledydd fel Awstralia a Phatagonia.

Am bedair blynedd a hanner roedd yn darlledu ei sioe ei hun bob pnawn rhwng 3pm a 5pm ar 大象传媒 Radio Cymru ac er iddo gael galwadau i ddychwelyd i fyd teledu i gyflwyno C芒n i Gymru, Y Cnapan, Camp am Ganu, Blwyddyn Newydd Dda a Delweddau'r Dyfodol, mae'n parhau i ddweud mai radio yw ei gariad cyntaf.

Mae Dafydd yn dad i ddau o blant ac yn hoff iawn o b锚l-droed gan ddilyn Everton.

Holi Dafydd

Sut aeth hi yn y stiwdio?

Un o brofiadau mwyaf brawychus fy mywyd. Mae gen i barch mawr erbyn hyn i unrhyw un sy'n cymryd rhan mewn cwis ar y teledu, a wna i byth eto weiddi atebion at y sgr卯n. Does dim byd yn hawdd pan 'da chi yn y sedd boeth.

Oeddech chi'n nerfus wrth eistedd yn y gadair ddu?

Oeddwn, a chyn eistedd hefyd. Roeddwn i'n debycach i Dafydd Gwyn na Dafydd Du a pan ofynodd Betsan y cwestiwn, "Enw?". Roedd rhaid i fi feddwl ddwywaith cyn ateb.

Oedd Betsan yn gwneud i chi deimlo'n nerfus?

A bod yn deg, mi oedd Betsan yn garedig iawn. Mi gafodd air efo fi a'r cystadleuwyr eraill cyn y rhaglen, a mi wnaeth hynny dawelu ein meddyliau rhywfaint. Allai ddim dychmygu fod Anne Robinson mor neis.

Pam dewisoch chi eich pwnc arbenigol?

Mae hanes Clwb P锚l-droed Llanberis yn agos at fy nghalon gan fy mod i wedi chwarae iddyn nhw, fy nhad wedi chwarae ac erbyn hyn yn llywydd, a fy nhaid wedi bod yn ysgrifenydd a chadeirydd i'r clwb.

Oeddech chi'n hapus efo eich perfformiad?

Mi oeddwn i'n hapus i adael y gadair mewn un darn, ond rhaid cyfadde ei bod hi'n anodd peidio mynd n么l dros y cwestiynau (hawdd) a ges i'n anghywir.

Sut mae eich gwybodaeth gyffredinol?

Bydd rhaid i chi wylio'r rhaglen!

Felly, ym mha flwyddyn cafodd Owain Glynd诺r ei wneud yn Dywysog Cymru?

NESA!

(Yr ateb cywir yw 1400)


Y Cyflwynydd

Betsan Powys

Betsan Powys

Gwleidyddiaeth yw pwnc arbenigol Betsan Powys tu allan i stiwdio Mastermind.

Y Gyfres

Cadair Mastermind

Y gadair ddu

Mae'r gadair ddu wedi bod yn seren y sioe gwis ers 1972.

Mastermind Plant

Plant yn stiwdio Mastermind

Plant peniog

Pwy yw s锚r y gyfres i blant?

Cwis

Fedrwch chi ateb cwestiynau cyffredinol Mastermind Cymru?


大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.