Elin Manahan Thomas
Pwnc arbenigol: Pedair cainc y Mabinogi
Soprano yw Elin, sy'n enedigol o Abertawe, a syrthiodd mewn cariad 芒 cherddoriaeth Bach yn ifanc iawn.
Dechreuodd ganu mewn amryw o gorau tra yn yr ysgol cyn ennill ysgoloriaeth gorawl i Goleg Clare, Caergrawnt.
Graddiodd gyda gradd dosbarth cyntaf mewn astudiaethau Engl-Sacson, Norseg a Cheltaidd. Er cael cyfle i astudio ar gyfer doctoriaeth yng Nghaergrawnt, aeth ymlaen yn lle hynny i astudio cwrs 么l-radd yn yr Academi Gerdd Frenhinol.
Cyrhaeddodd ei halbwm gyntaf, Eternal Light, rif dau yn y siartiau clasurol a chafodd Elin ei henwebu ar gyfer gwobr Bafta Cymru am y cyflwynydd newydd gorau yn 2007.
Holi Elin
Sut aeth hi yn y stiwdio?
Roedd yn brofiad anhygoel bod yn y stiwdio a gyda'r gynulleidfa, y goleuadau a'r gerddoriaeth, ro'n i'n nerfus ofnadw!
Oeddech chi'n nerfus wrth eistedd yn y gadair du?
Ro'n i'n chwys domen yn y gadair. Fe redes i farathon Llunden eleni ac rwy'n canu fel unawdydd o flaen cannoedd o bobl yn ddyddiol, ond dwi erioed wedi ofni dim byd mwy.
Oedd Betsan yn gwneud i chi deimlo'n nerfus?
Roedd Betsan yn hyfryd off-camera felly fe helpodd hi fi i ymlacio dipyn. Ac fel cwis-feistres roedd hi'n broffesiynol tu hwnt ac yn glir. Nid bo fi braidd yn gallu deall gair achos bod fy nghalon yn curo mor swnllyd yn fy nghlustiau!
Pam dewisoch chi eich pwnc arbenigol?
Y Mabinogi oedd fy hoff lyfr yn y coleg, ac ro'n i'n gobeithio gallu cofio lot ohono. Ond roedd y cwestiynau yn galed, oedd yn gr锚t, ond ffaeles i ganolbwyntio, wps.
Oeddech chi'n hapus efo eich perfformiad?
Dwi ddim yn cofio digon am yr atebion i allu dweud a o'n i'n hapus 芒'm perfformiad! Dim ond un ateb gwirioneddol dwp roies i, sy ddim yn rhy wael o ystyried pa mor besimistig oeddwn i cyn mynd i fewn.
Sut mae eich gwybodaeth gyffredinol?
Hm, nid gwybodaeth gyffredinol yw fy nghryfder. Fe ddysges i ddinasoedd y byd yn drwyadl ond ddaeth dim un lan, blincin typical! Ond mae'r profiad wedi rhoi hwb i fi i ddysgu mwy ac wedi dysgu parch newydd i fi tuag at y bobl sydd yn DEWIS gwneud Mastermind. Y ffyliaid!
Cystadleuwyr Nadolig 2008
Y Cyflwynydd
Betsan Powys
Gwleidyddiaeth yw pwnc arbenigol Betsan Powys tu allan i stiwdio Mastermind.