Y bobol nid y lle . . . O greigiau Antrim i dywod Dubai - dipyn o daith! Es i ddim â chamera efo mi i dynnu lluniau, ar gyfer yr albwm teuluol - ac eto, dim ond imi gau fy llygaid a sibrwd Antrim, Yr Eidal, Sbaen, Groeg, Swistir, Dubai, fe ddaw'r lluniau i sgrîn y cof, i'w hail fwynhau. . . Belfast: Murluniau ar gefnau'r tai yn y Shankill, a char Ford yn mynd rownd a rownd y sgwâr yn ara yn y pellter, yn ein gwylio ni'n ffilmio . . . CLIC . . . arfordir gwyllt Antrim, a'r golygfeydd godidog ar y ffordd i Cushendun lle codwyd nifer o fythynnod wedi eu cynllunio gan Clough Williams Ellis . . . CLIC . . . cysgu yng ngwely Winstone Churchill. Yr Eidal: Reid wallgo gyffrous ar gefn Vespa drwy draffig Rhufain . . . CLIC . . . prynu pâr o sgidia blaenau sgwâr gan ddynes bananas yn Ravenna . . . CLIC . . . Gwyl Ganoloesol ryfeddol yng nghanol mynyddoedd yng Ngogledd yr Eidal a Garin tynnu lluniau merch ifanc yn dianc rhag dicter y ddraig leol.
Sbaen: Gwisgo fel dawnsiwr fflamenco. Roeddwn i'n edrych fel Clint Eastwood- o bell!! . . . CLIC . . . dynas mewn côt ffwr yn rhoi gwersi clecian castanets imi . . . CLIC . . . Reidio ar draws y sgwâr ym Madrid a dynes yn gweiddi arnai, "Da nin nabod Dei Tomos." Groeg: Eistedd wrth bwll nofio efo Linda Ganatsiou yn Thesaloniki yn sipian diod felys o'r enw stomacci . . . CLIC . . . Eistedd dan goeden yng Nghreta efo Shirley o Sir Fôn, yn sipian racci ac yn byta siocled, yng nghwmni'r Papas ... ar haul yn machlud . . . CLIC . . . Shirley yn syllu i fyw llygaid y camera ac yn gofyn, "Dad-plis newch chi ddwad draw i'r briodas.
Y Swistir: Gwen Carys Jampen yn goleuo llwydni'r lle . . . CLIC . . . gweld Machno Carwyn, poni gwerth £350,000 yn dangos inni pam mai o ydi'r poni gora yn Ewrop . . . CLIC . . . Bwyta fy fondue cynta - ar olaf. Caws wedi ei feddalu, efo bara. Mae'n edrych fel past papur wal ond ddim yn blasu cystal. Dubai: Y bensaernïaeth fodern liwgar . . .. CLIC . . . Parcio'r beic drws nesa i Mercedes yn Rasus Ceffyla Dubai . . . CLIC . . . Teimlo fel Archdderwydd Abu Dhabi, mewn gwisg wen . . . CLIC . . . Tawelwch ac ehangder yr anialwch . . . CLIC .... Claddu'r beic yn y tywod ar ddiwedd y gyfres. Y bobol nid y lle Pan oeddwn i'n hogyn ifanc - hyd yn oed yn fengach nag ydw'i rwan - dwin cofio gweld ffilm Dirk Bogarde yn yr Arcadia, Llangefni, The Singer, not the Song. A dyna da ni wedi ceisio'i wneud yn y gyfres yma, canolbwyntio ar y canwr, nid y gân - y bobol nid y wlad. Nid Wish you were here ond Why are you here? A dyna fyddwn ni'n ei ofyn yn y gyfres nesa hefyd a hynny i Gymry sy'n byw yn Kenya, yr Aifft, ac (os fedrai berswadio'r cynhyrchydd) i ddyn busnas o Gymru syn byw yn Japan. Ond am y tro - Sayonara! Clic. . .
|