Cymro sydd wedi cofleidio ffordd o fyw Sweden ydi Dylan Selway o Lansannan. Mewn gŵyl flynyddol hwyliog yn nhref Malmö y gwnaeth o a Hywel gwynfryn gyfarfod - Gŵyl y Cimwch Coch. Gyda digon i'w yfed a digon o gimychiaid coch i'w bwyta yr oedd hwn yn ddechrau bywiog i ymweliad Hywel. Cafodd gip hefyd ar fywyd Dylan a'i wraig Maria, sy'n dod o Sweden.
Magu plant Mae Dylan yn byw ger Angelholm, rhyw awr o Malmö, y drws nesa i'w rieni yng nghyfraith ac y mae ef a Maria yn magu eu dau o blant, Daniel ac Anna, sydd wedi eu mabwysiadu o Affrica.
Yn wahanol i'r hyn sy'n digwydd yng Nghymru rhaid i dadau Sweden gymryd cyfnod o ddau fis oddi wrth y gwaith fel cyfnod tadolaeth. Yn wahanol i Gymru hefyd, mae cyflogau yn is, trethi yn uwch ond safon byw yn fwy cyson gyda'r bwlch rhwng y cyfoethog a'r tlawd yn llai nag mewn llawer o wledydd. Gwahaniaeth mawr arall, fel y darganfu Hywel, yw na chewch chi beint o gwrw am lai na phumpunt!
Yn y brifysgol Cyfarfu Dylan a Maria yn y brifysgol yn Abertawe ac ar ôl priodi dewis byw yn Sweden lle mae Maria yn weithwraig gymdeithasol a Dylan yn hyfforddi i fod yn fapiwr gyda'r cyngor sir lleol. Yn ystod ei ymweliad gwelodd Dylan wrth ei waith yn golygu a diweddaru mapiau - swydd braf iawn pan fo'r tywydd yn sych a chefn gwlad Sweden mor fendigedig. Taith feics Cafodd gyfle hefyd i neidio ar ei feic a chymryd rhan yn un o arferion rheolaidd y dref gyfagos, sef taith feics 80 milltir ar ddydd Sul. Mae'r ffyrdd yn ddelfrydol - yn dawel a di-draffig, fel y byddech yn disgwyl mewn gwlad sydd a phoblogaeth o naw miliwn ond sydd y drydedd wlad fwyaf yn Ewrop.
Ar Dy Feic - Llun, Mai 29, 2006. 大象传媒 Cymru ar S4C, 9.30pm
|