大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Cymdeithas Carnhuanawc
Carcharorion yn troi'n genhadon iaith yn Iwerddon.


Effaith Long Kesh
Hwyrach mai stori fwyaf difyr a chyffrous yr ieithoedd Celtaidd dros y 30 mlynedd diwethaf yw'r hyn ddigwyddodd ym Melffast.

Cychwynnodd adfywiad yr Wyddeleg, yn ôl Diarmait mac Giolla Chriost o Adran y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, yng ngharchar y Long Kesh ddechrau'r Saithdegau.

Yr oedd y siaradwr yn annerch Ysgol Undydd a drefnwyd gan Gymdeithas Carnhuanawc, yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd, ddydd Sadwrn, 16 Chwefror 2008.

Yr oedd nifer fawr o genedlaetholwyr gweriniaethol ifanc wedi'u carcharu yn y Long Kesh ac yn cael eu trin fel carcharorion rhyfel. Dechreuodd nifer ohonynt fynd ati i ddysgu'r Wyddeleg.

Dysgwyr, dechreuwyr pur oedd llawer iawn ohonynt, ond yr oedd yn eu plith ambell un rhugl yn yr iaith a gwelsant fod rhywbeth arbennig yn perthyn iddi, ac yr oedd ei dysgu yn amddiffynfa rhag torri eu hysbryd gan y drefn.

Dechreusant drwy weiddi geiriau ac ymadroddion ar ei gilydd. Datblygodd math o iaith a elwid y "Jailtacht".

Daeth yr awdurdodau Prydeinig i'r casgliad ym 1976 fod y carcharorion yn cael bywyd rhy esmwyth a newidiwyd eu statws i fod yn garcharorion cyffredin yn hytrach na rhai gwleidyddol ac aeth yn llawer anos ar y dysgwyr - ond eto, dyfeisiwyd dulliau o gyfathrebu drwy basio darnau o bapur i'w gilydd a gweiddi gwersi ar ei gilydd o gell i gell.

Daeth yr Wyddeleg yn arwydd o wrthsafiad.

Pan ddychwelodd y carcharorion i'r gymdeithas aethant a'u brwdfrydedd o blaid yr Wyddeleg gyda nhw gan gychwyn chwyldro ieithyddol, meddai Diarmait mac Giolla Chriost.

"Aethant yn ôl i'w cymunedau gyda'r neges mai yr iaith yr oedd y ffordd o barhau'r frwydr," meddai.

Erbyn hyn mae nifer o Ysgolion Gwyddeleg yn Nwyrain Belffast ac y mae sefyllfa'r iaith yng Ngogledd Iwerddon wedi'i gweddnewid.

Carnhuanawc a Llydaw
Rhyfedd o beth yw delwedd.
Yn y flwyddyn 1829 aeth Carnhuanawc - y Parchedig Thomas Price - i Lydaw. Yr oedd wedi ymddiddori yn Llydaw ers blynyddoedd ac ym 1819 wedi ceisio cael y Gymdeithas Feiblau Frytanaidd a Thramor i ariannu cyfieithu'r Beibl i'r Llydaweg gan gynnig ei hun i helpu gyda'r cyfieithu, hyd yn oed.

Yn Eisteddfod y Trallwm (1824) yr oedd wedi ennill gwobr am draethawd ar berthynas y Cymry â'r Llydawiaid a thrwy hynny beri i'r Cymry ailddarganfod Llydaw.

Taith Carnhuanawc - a'i ddisgrifiad ef ei ohoni yn A Tour Through Brittany a gyhoeddwyd yn The Literary Remains of the Rev Thomas Price - oedd pwnc darlith Dr Mary-Ann Constantine, o'r Ganolfan Uwch-Efrydiau Cymreig a Cheltaidd, Aberystwyth.

Yr oedd golwg Carnhuanawc ar Lydaw yn un od. Ni sylwai ar yr eglwysi gwych na'r capeli bychain, rhyfedd, ac yntau'n offeiriad. Ni welodd harddwch gwisgoedd y Llydawiaid, ond gresynu eu bod yn gwisgo clocsiau a'u clindarddach ar y ffordd yn merwino'i glustiau.

Y defnydd a wneid o'r tir, sef yr amaethu, a'r caeau bychain yn hytrach na gwylltineb y wlad a aeth a'i fryd.

Ac wrth gwrs, yr iaith. Er tybio y buasai'n medru helpu gyda chyfieithu'r Beibl i'r Llydaweg, buan y daeth i'r casgliad nad oedd modd i Gymro a Llydawr gynnal sgwrs gyda'i gilydd - neu o leiaf ddim trafodaeth ddysgedig sylweddol.

A chwarae teg iddo, meddai Dr Constantine, yr oedd yn barod iawn i gydnabod ei gamgymeriad. Ychwanegodd iddo ymgorffori llawer o gynnwys ei draethawd eisteddfodol yn ei ddisgrifiad o'i daith.

Ychydig flynyddoedd wedyn daeth yn gyfeillgar â Llydawr o'r enw François-Alexis Rio a briododd Apollonia Jones, merch ystad Llanarth, ger Y Fenni.

Drwy y ddau gwahoddwyd dirprwyaeth o Lydaw i Eisteddfod y Fenni, 1838. Ymysg y Llydawiaid roedd Hersart de la Villemarqué (Kervarker), gŵr ifanc ddaeth yn enwog yn fuan wedyn ledled Ewrop am ei gasgliad o faledi Llydaweg, y Barzaz Breiz.

Cymharodd Dr Constantine agwedd ramantus y Llydawr ifanc gydag agwedd mwy syber Carnhuanawc.
Ffolodd Kervarker o weld y parch oedd tuag at yr iaith Gymraeg ymhlith boneddigion Y Fenni o'i gymharu â'r sen a ddioddefai'r Llydaweg.

Tra gwelai Carnhuanawc y gwahaniaethau rhwng y ddwy iaith, yr oedd Kervarker ar lwyfan yr Eisteddfod yn canu cân o'i gyfansoddiad ef ei hun oedd yn gybolfa ryfedd o Gymraeg a Llydaweg gan honni fod pawb, Lydawiaid a Chymry, yn deall pob gair - a hynny i fonllefau o gymeradwyaeth!

Cafodd ei sbwylio'n lân gan Arglwyddes Llanofer a'i chriw ac yr oedd cael ei dderbyn yn aelod o'r Orsedd yn wefr ysgytiol iddo.
"Yr wyf i'n fardd," cyhoeddodd yn fuddugoliaethus.

Y Gernyweg
Dywedodd Jenefer Lowe, Swyddog Cernyweg gyntaf erioed Cyngor Sir Cernyw fod cytundeb ar ffurf ysgrifenedig swyddogol i'r iaith yn debyg o gael ei gadarnhau o fewn y mis nesaf.

Er mai 400 sy'n siaradwyr Cernyweg - a 3,000 yn honni rhywfaint o dealltwriaeth ohoni - y mae pedair orgraff yn cael eu defnyddio a lladmeryddion pob un mwynhau ymosod ar ei gilydd, meddai!

Y mae gan y Gernyweg statws rannol swyddogol dan gonfensiwn Ewrop o hawliau dros ieithoedd lleiafrifol ac y mae gobaith y gwelir dysgu'r iaith yn y mwyafrif o ysgolion cyn hir, gan ddechrau yn yr oed meithrin.

Y Gaeleg
Mwy digalon oedd darlun Robert Dunbar o sefyllfa Gaeleg yr Alban y mae nifer ei siaradwyr yn gostwng yn gyson er bod y gostyngiad wedi arafu rhwng 1991 a 2001.
Nifer y siaradwyr nawr yw 58,500.

Mae problem ddifrifol o ddiffyg yn y niferoedd sy'n trosglwyddo'r iaith i'w plant - 67 y cant o deuluoedd lle mae'r ddau riant yn siarad Gaeleg a dim ond 21 y cant lle nad oes ond un rhiant yn eu medru.

Bellach dim ond ar ynysoedd pell y gorllewin y mae mwyafrif y boblogaeth yn ei siarad ac yno mae problem diboblogi a'r boblogaeth sy'n weddill yn heneiddio.

Chwarter plant yr ynysoedd gorllewinol sy'n cael addysg drwy gyfrwng yr Aeleg ac er bod cynnydd sylweddol mewn rhaglenni teledu Gaeleg a mwy eto i ddod gyda theledu digidol nid yw'r darlun yn addawol, meddai'r Dr Dunbar. Nid oes siaradwyr gyda'r profiad ar gyfer y gwaith.

O blith 129 o aelodau Senedd yr Alban, dau yn unig sy'n medru'r iaith.
gan Gwyn Griffiths





cysylltiadau


ewrop

> Albania
> Awstria
> Azerbaijan
> Croatia
> Ffrainc
> Gwlad Belg
> Gwlad Groeg
> Hwngari
> Iwerddon
> Romania
> Rwsia
> Yr Almaen
> Yr Eidal
> Sbaen

Bywiogrwydd Cymraeg yng Ngwlad Pwyl

I Norwy i weld a-ha

Y Pasg yn Hwngari

Gwersi canu - a chastanetio!

Chwilio am y bobol

Gwylio'r Byd

Gwion Lewis - arbenigwr ar faterion rhyngwladol

Oerfel yn yr Wcráin

Yr Wcráin - cwestiwn ac ateb

Slofenia

Ffrwydradau Llundain

Anghytgord

G8 - 2005

Cymdeithas Carnhuanawc

Ar Dy Feic - 2006

Cofleidio Sweden

Ar dy feic 2003

Clic i'r cof

Ar Dy Feic

Chwilio am bobol



About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy