|
|
Llyfrau Cymraeg mewn Almaeneg
Trafod her trosi o ieithoedd Celtaidd i'r ieithoedd mawr Dydd Gwener, Mai 25, 2000
|
Kate Roberts ac Angharad Tomos mewn Almaeneg Adroddiad Diarmuid Johnson, newyddiadurwr o Iwerddon. Buodd o gynhadledd ynghlyn â chyfieithu llenyddiaeth yr ieithoedd Celtaidd i'r Almaeneg ac i ieithoedd mawr eraill yn y Studuimhaus fr Keltische Sprachen und Kulturen (SKSK), Konigswinter, Bonn. Bu'r Dr Sabine Heinz (Berlin) yn sôn am Si Hei Lwl gan Angharad Tomos, yr Athro Wolfgang Shamoni yn trafod ei gyfrol o waith Kate Roberts, a Markus Wursthorn yn trin gwaith Dafydd ap Gwilym a pheth o waith y Gogynfeirdd. Disgrifiodd Sabine Heinz rai or anhawsterau sy'n codi wrth gyfieithu enwau priod. Paradiesweg yw Gwynfa, enw cyffredin ar dai. Yna aeth yn ddadl, faint o Gymry sy'n ymwybodol o ystyr gwreiddiol gwyn yn y cyswllt hwn, sef bendiedig. Geiriau Saesneg yn y Gymraeg Pwnc dwys arall ywr geiriau Saesneg yn y Gymraeg - Sprachkontakt, chwedl yr Almaenwr. Sut mae cyfieithu Ddim ffiars o beryg, neu Odd en feri gwt? Anodd eu trin hefyd yw pwyslais a chywair: Dw i ddim yn ei nabod o, yldi - mae ystyr y frawddeg yn glir pe gellid taro'r un nodyn yn y cyfieithiad. Cred Markus Wursthorn fod Cad Tal Moelfre yn enghraifft o farddoniaeth fodern a realistig. Nid mawreddu erchylldra rhyfel y maer gerdd, meddai, ond darlunio'r frwydr yn graff. Yn ogystal â chynhadleddau ar wahanol themâu, maer SKSK yn cynnig cyrsiau iaith yn rheolaidd yn y Gymraeg, y Llydaweg a'r Wyddeleg. Cyrsiau penwythnos yw'r arfer, gyda chyrsiau pythefnos yn yr hydref. Canolfan yn debyg i Nant Gwrtheyrn o ran strwythyr a threfniant yw'r SKSK. Fe'i hagorwyd yn swyddogol fis Rhagfyr diwethaf gan Éamon Cuv, Isweinidog yn llywodraeth Iwerddon, ac mae llywodraeth Iwerddon a llywodaeth yr Alban ill dau yn cefnogir fenter. Maer Dr Arndt Wigger, sefydlydd y Studiumhaus, yn gobeithio denu peth cefnogaeth o Gynulliad Cymru hefyd.
|
|