大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Tania a Tina Pen-blwydd gyda'r fyddin
Mae efeilliaid o dde Cymru newydd ddathlu eu pen-blwydd yn ddeunaw oed trwy dreulio amser gyda Chatrawd Frenhinol Cymru y Royal Regiment of Wales yn yr Almaen.



Y mae Tania a Tina o'r Hirwaun yn gadetiaid gyda Thrydydd Bataliwn (Cadet) y Gatrawd ac fe wnaethon nhw a 21 o gadetiaid eraill ymateb i wahoddiad, yng Ngorffennaf 2003, i dreulio wythnos ym Marics Barker yn Paderborn, yr Almaen.

Er bod Tania a Tina yn gadetiaid ers yn bump oed dyma'r tro cyntaf iddyn nhw gael profiad fel hwn a dyma'r tro cyntaf hefyd iddyn nhw fod dramor o gwbwl.

Ac ar ddiwrnod eu pen-blwydd yr oedd yna ddathliad bach arbennig wrth gwrs.

"Trefnwyd cwpwl o deisennau inni a doeddem ni ddim yn gwybod beth i'w wneud pan ddangoswyd hen luniau wedi eu chwyddo ohono ni yn nhy bwyta'r Gatrawd," meddai Tina.

Yn ystod yr wythnos cafodd yr efeilliaid flas ar sawl agwedd o fywyd y fyddin gan gynnwys gwersi ar y reiffl SA80 a chael golwg ar danciau Warrior.

Nid y pen-blwydd mwyaf arferol felly ond yr oedd yna amser i bethau eraill hefyd fel râs elusen bum cilometr, Râs am Fywyd, i godi arian tuag at ymchwil canser, ac ymweliad â baddonau twym yn Lippspringe cyn dychwelyd i bencadlys y cadetiaid ym Mhenybont-ar-Ogwr.






ewrop

Yr Almaen
Dysgu Cymraeg gyda phinsied o halen

Pen-blwydd gyda'r fyddin

Llyfrau Cymraeg mewn Almaeneg




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy