大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Lowri Evans Ar fws ym Marcelona
  • Ail erthygl gan Lowri Evans, Beulah Castell-newydd-Emlyn, yn dilyn ymweliad â Barcelona.


  • I ddathlu ein bod ar ddibennu ein cyfnod yn fyfyrwyr penderfynodd criw ohonom fynd i Farcelona ar wyliau.

    Yn wir, dyma'r cyfuniad perffaith i wyth merch sydd â'u bryd ar wyliau tra gwahanol gan fod yno haul crasboeth, traeth prysur, dinas fywiog a siopau at bob dant - heb anghofio'r Sangria wrth gwrs!

    Profiad chwithig i griw o fyfyrwyr yw'r syniad o fynd ar fws gydag ymwelwyr tramor i weld dinas mor cŵl â Barcelona a chyfaddef eu bod yn yr un cae â hwy!

    Ond, er fy amheuon ar y dechrau cefais hwyl fawr o'r profiad.

    Gyda thocyn bws 23ewro am ddau ddiwrnod roedd hi'n bosib teithio ar y bws ac aros fel y mynnech.

    Rhai o brif atyniadau'r daith oedd Sagrada Familia ac El Parc Güell ac rwy'n falch inni ymweld â'r ddau le.

    Cadeirlan anorffenedig yw'r Sagrada Familia - breuddwyd yr athrylith o ddylunydd, Gaudi, sy'n cael ei eilun addoli ym Marcelona.

    Ond, dros ddwy ganrif a rhagor ers ei farwolaeth mae'r lle yn dal heb ei orffen!

    Mae mynediad i'r Gadeirlan yn 10euro gyda'r arian yma yn mynd tuag at gostau adeiladu.

    Er i ni fedru gwerthfawrogi cyfraniad yr adeilad i'r ddinas ac i'w phobl, braidd yn siomedig oedd y profiad o fynd i mewn i'r adeilad gan weld ond craeniau, sgaffaldiau a llond sedd fawr o adeiladwyr wrth eu gwaith.

    Roedd gerddi Gaudi, El Parc Güell, yn dystiolaeth o'i gyfraniad i'r ddinas ac i'w weledigaeth fel crefftwr.
    A'r y ffaith fod y lle wedi ei orffen yn fonws!

    Roedd y golygfeydd o gopa'r gerddi yn ddirdynnol, a braf oedd medru edrych i lawr ar y ddinas o'r fan hon.

    Roedd mân-werthwyr a masnachwyr ar hyd y lle yn y gerddi, fel ym mhobman ar draws y ddinas a dweud y gwir, a phawb am geiniog o goffrau'r ymwelwyr niferus.

    Y myfyrwyrWedi gadael y gerddi penderfynwyd fod ymweliad â dau le diwylliannol yn hen ddigon am un diwrnod ac felly aethom yn ôl ar y bws i gael gwydryn o Sangria haeddiannol ar La Ramblas - prif stryd dwristaidd y ddinas a welir ar bron bob cerdyn post o'r ddinas.

    Mae hi'n stryd brysur llawn bwytai, mân siopau a phobl wirion wedi'u gwisgo fel cerfluniau!

    Unwaith eto, cefas flas ar Barcelona er fy mod ychydig yn bryderus y byddai rhywun yn cipio fy mag unrhyw eiliad!

  • Cyhoeddir yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 大象传媒 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Am fwy o fanylion ac i wybod sut y gallwch ennill £30 am ysgrifennu - Cliciwch






  • cysylltiadau
  • Ymweliad arall Lowri

  • ewrop

    Sbaen
    Llythyr o Sbaen

    ETA - eto

    ETA - cwestiwn ac ateb

    Y Sbaen Newydd

    Barcelona

    Ar fws ym Marcelona




    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy