|
|
ETA - eto
Gwion Lewis, arbenigwr ar faterion rhyngwladol, yn trafod gweithgareddau diweddaraf ETA yn Sbaen
|
'Roedd hi'n ganol Awst yn y flwyddyn 1997, a rhyw hanner dwsin yn unig oedd ar draeth Malaga yn ne Sbaen.
Drws nesaf i mi, 'roedd cwpl oedrannus o Bolton yn cael trafferth cwblhau croesair y Sun. Roedd y pedwar arall wedi eu gwasgaru ac, fel minnau, yn prysur gochi yn yr haul canol dydd tra'n gwneud yn siwr yn eu Lonely Planets fod y trên wedi eu gollwng nhw yn y lle iawn.
Ble oedd y trigolion lleol, croesawgar, oedd mor barod i dollti sangrïa i Judith Chalmers?
Y brotest fwyaf Mi ges i'r ateb wrth lusgo fy nghês i gyfeiriad y Plaza de la Constitucion i chwilio am hostel, a dod wyneb yn wyneb â'r brotest fwyaf i Malaga ei gweld yn y cyfnod modern.
Asgwrn y gynnen oedd ETA, mudiad arfog a fu'n ymgyrchu ers y saithdegau i ddod ag annibyniaeth i Wlad y Basg yng ngogledd Sbaen a de-orllewin Ffrainc.
O'm blaen roedd can mil o Sbaenwyr yr ardal yn gandryll am gyfres o ymosodiadau gwaedlyd yr haf hwnnw.
Flwyddyn yn ddiweddarach, 'roedd hi'n ymddangos fod y protestwyr wedi llwyddo: cyhoeddodd ETA ei fod yn dod â'i ymgyrchu treisgar i ben.
Do, mi gafwyd ychydig o ymosodiadau yma ac acw wedi hynny, ond nid ar yr un raddfa â'r gorffennol.
Arswydus o gyfarwydd Ond Chwefror 9 eleni, 'roedd un digwyddiad ym Madrid yn arswydus o gyfarwydd i bobl Sbaen. Ffrwydrodd bom mewn car y tu allan i ganolfan gynadleddau gan anafu 43.
Yn ôl heddlu'r wlad, mae ETA wedi cadarnhau mai nhw oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad hwn ac am ymosodiad ar westy ar y Costa Blanca fis Ionawr pan anafwyd dyn gan ddyfais ffrwydrol.
Wedi cyfnod cymharol ddistaw, mae'n ymddangos fod ETA'n cael ail wynt, a hynny ar adeg pan yw'r Basgiaid eu hunain yn herio llywodraeth Madrid fwy-fwy.
Herio Nid yw 2005 wedi dechrau'n dda i genedlaetholwyr Basgaidd.
Fis Rhagfyr y llynedd, 'roedd senedd y Basgiaid wedi cefnogi'r syniad o sefydlu llysoedd, cyfundrefn ariannol, a dinasyddiaeth newydd ar gyfer y rhanbarth. Ond yn gynharach y mis hwn, gwrthodwyd y cynllun gan fwyafrif helaeth yn y senedd ganolog ym Madrid.
Cyhuddodd Prif Weindiog Sbaen, Jose Luis Rodriguez Zapatero, arweinydd y Basgiaid, Juan Jose Ibarretxe, o "hyrwyddo gweledigaeth nad yw'n cael ei chefnogi gan ei bobl ei hun".
Mae Ibarretxe wedi taro'n ôl drwy gyhoeddi y bydd yr etholiadau ar gyfer senedd Gwlad y Basg eleni yn cael eu cynnal dair wythnos yn gynharach na'r disgwyl - ar Ebrill 17.
Yn ôl un o bapurau dyddiol Sbaen, ABC, "ymateb yn fwriadol emosiynol" mae Ibarretxe yn hyn o beth "er mwyn rhoi tân ym mol y mudiad cenedlaetholaidd".
Pryderon a bwganod Pryder llawer yw y bydd aelodau ETA yn dehongli'r neges honno'n llythrennol dros y misoedd nesaf, yn enwedig os yw Ibarretxe yn dal ei afael ar yr arweinyddiaeth yn dilyn yr etholiadau a senedd Madrid yn gwrthod ei syniadau unwaith yn rhagor.
Dywed eraill na ddylid codi bwganod: mae'r rhan fwyaf o arweinwyr ETA wedi eu carcharu; mae llawer o'u harfau a'u ffrwydron wedi eu darganfod; ac mae heddlu Sbaen a Ffrainc eisoes wedi arestio dros gant eleni dan amheuaeth o fod yn rhan o'r mudiad.
Bu ergyd bellach i aelodau ETA pan ddatgelwyd fod chwech o'u cyn arweinwyr, sydd bellach dan glo, yn credu nad oes diben i'r mudiad ddefnyddio terfysg.
Yn ôl llythyr gan un ohonynt a ryddhawyd i'r wasg Sbaenaidd, "nid yw ein brwydr arfog yn gweithio oherwydd ein bod ni'n cael ein sathru i'r fath raddau gan y gelyn".
Aildrefnu Llwyddiannus ai peidio, mae'n amlwg fod ETA yn aildrefnu ei hun ar ôl colli rhai o'i hoelion wyth, a hynny ar adeg dyngedfennol yn hanes Gwlad y Basg.
Eisoes, mae etholiadau'r Basgiaid, fis Ebrill, yn cael eu gweld fel 'refferendwm' ar ddyfodol y rhanbarth: ydy'r pleidleiswyr yn eu gweld eu hunain yn bennaf fel Sbaenwyr, ynteu fel Basgiaid?
Mae'r polau piniwn yn rhy agos ar hyn o bryd i awgrymu fod un canlyniad yn fwy tebygol na'r llall.
Canlyniad colli neu ennill Os mai colli fydd hanes Ibarretxe, bydd ei argymhellion ar gyfer mwy o ddatganoli o Fadrid i Wlad y Basg yn diflannu gydag ef.
Ar y llaw arall, byddai buddugoliaeth yn ei roi, am y tro cyntaf, mewn lle hynod gryf i roi pwysau ar Zapatero i fod yn fwy hyblyg. Y gobaith yw y byddai Zapatero wedyn yn ddigon doeth i wrando arno. Fel y gŵyr y Sbaenwyr gystal â neb, buan y troir at drais os yw lleiafrif diwylliannol yn cael ei anwybyddu.
Dolennau
|
|