大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Baneri yng Ngwlad y Basg ETA - cwestiwn ac ateb
Gwion Lewis yn ateb cwestiynau am ETA

Ble mae 'Gwlad y Basg'?

Mae cenedlaetholwyr Basgaidd yn honni y dylai saith rhanbarth yng ngogledd Sbaen a de-orllewin Ffrainc fod yn annibynnol ar y gwledydd hynny.

Pwy neu beth yw ETA?
Mudiad arfog sydd yn ymgyrchu'n dreisgar o blaid annibyniaeth i Wlad y Basg yw ETA. Ystyr enw'r mudiad, Euskadi Ta Azkatasuna, yn fras yw 'Mamwlad a Rhyddid i'r Basgiaid'.

Daeth i'r amlwg am y tro cyntaf yn y Chwe Degau fel mudiad o fyfyrwyr oedd yn erbyn unben milwrol Sbaen, Franco. Yn ystod cyfnod Franco, cafodd yr iaith Fasgeg ei gwahardd, ac fe garcharwyd deallusion Basgaidd am hyrwyddo'r diwylliant cynhenid.

Pa mor 'annibynnol' yw Gwlad y Basg ar hyn o bryd?
Mae llawer mwy o ddatganoli wedi bod o Fadrid i Wlad y Basg nag sydd wedi bod o San Steffan i Fae Caerdydd.

Eisoes, mae gan y Basgiaid senedd, heddlu a chyfundrefn addysg eu hunain, ac maen nhw hefyd yn casglu eu trethi eu hunain.

Nid yw hynny'n mynd yn ddigon pell i rai cenedlaetholwyr: mae nhw'n dymuno gweld, ymysg pethau eraill, dinasyddiaeth Fasgaidd a chael apwyntio eu barnwyr eu hunain. Eu nod yn y pen draw yw gweld Gwlad y Basg sy'n gwbl annibynnol ar Sbaen.

Faint sydd wedi cael eu lladd o ganlyniad i weithgaredd ETA?
Dros y deng mlynedd ar hugain diwethaf, amcangyfrifir fod ymgyrch ETA wedi lladd 800, llawer ohonyn nhw'n aelodau o'r heddlu ac yn wleidyddion.

Pa mor weithgar yw ETA heddiw?
Mae llywodraeth Madrid wedi gwario'n sylweddol i geisio dal aelodau ETA.
Mae'r rhan fwyaf o'i arweinwyr bellach yn y carchar, ond mae yna arwyddion fod yna do newydd yn codi yn y mudiad, gydag ymosodiadau yn digwydd yn fwy aml ac ar raddfa fwy uchelgeisiol na welwyd ers peth amser.

Faint o gefnogaeth sydd yna i ETA ymysg y Basgiaid eu hunain?
Y farn gyffredinol yw fod yna lawer llai o gefnogaeth i ETA heddiw nag a fu.

Collwyd cefnogaeth ar ôl i'r mudiad herwgipio cynghorydd ifanc yn 1997 a'i saethu'n farw pan wrthododd llywodraeth Madrid drosglwyddo 460 o garcharorion Basgaidd i garchardai yng Ngwlad y Basg.

Mae llawer hefyd yn gweld fod y Basgiaid cymedrol wedi llwyddo i sicrhau cryn dipyn o ddatganoli i'r rhanbarth heb ddefnyddio trais.

Y perygl yw y bydd mwy yn cydymdeimlo ag ETA os yw'r Basgiaid yn ailethol eu harweinydd presennol ym mis Ebrill, gan roi sêl eu bendith ar ei gynllun i wneud Gwlad y Basg yn fwy annibynnol.

Mae Madrid yn gadarn yn erbyn y syniad, ac nid oes arwydd fod hynny am newid yn y dyfodol agos.






cysylltiadau




ewrop

Sbaen
Llythyr o Sbaen

ETA - eto

ETA - cwestiwn ac ateb

Y Sbaen Newydd

Barcelona

Ar fws ym Marcelona




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy