大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Hywel gyda Geraint Evans Tywydd gwell wedi trochfa
Ac yntau wedi gwlychu at ei groen am y trydydd tro y bore hwnnw ar ei fferm yn Llannerchymedd, daeth Geraint Evans i'r casgliad fod bywyd gwell i'w gael rywle arall.

Yn hytrach na breuddwydio am y bywyd hwnnw, ymgynghorodd Geraint â'i deulu a gwneud penderfyniad a wyrdrôdd eu bywydau - gwerthu'r eiddo a'r tir a symud i ben draw'r byd yn Seland Newydd.

Dyma un o'r straeon a adroddodd wrth Hywel Gwynfryn pan ymwelodd ag ef ar gyfer rhifyn Ebrill 27, 2003 o'r gyfres Ar Dy Feic gan 大象传媒 Cymru ar S4C.

Erbyn hyn mae Geraint a'i wraig Sonia yn byw ar fferm fechan 20 acer ac yn rhedeg motel yn Whangarei, Ynys y Gogledd, Seland Newydd, gyda'u merch fach Megan sy'n bedair oed.

Geraint, Megan a SoniaBedydd tân
I'w galluogi i wneud hyn bu'n rhaid gwerthu dwy fferm y teulu, Cae Mawr a Thai Hirion yn Sir Fôn.

Wedi cyrraedd Seland Newydd, roedd bedydd tân yn eu disgwyl wrth iddyn nhw orfod dechrau ar y gwaith o redeg motel yn syth, heb ddim profiad o wneud y ffasiwn beth o'r blaen - a hithau yn dymor prysur, y Nadolig, ynghanol eu haf hwy.

Erbyn hyn mae ganddyn nhw reolwr, sy'n sicrhau bywyd tawelach iddyn nhw a hwnnw'n fywyd gwahanol iawn i'r hyn ydoedd ym Môn - ond yn fywyd braf.

Colli nos Wener!
Dwi'n colli nos Wener i drafod hefo'r hogiau yn Nhafarn y Rhos a ballu'n de! Y pris rydan ni'n dalu ydi colli petha felly. Ond ar ôl deud hynny, dydan ni ddim yn gorfod wynebu'r dyddiau sy'n fyr, y diwrnodau lle mae'n bwrw glaw drwy'r dydd. Dwi'n lwcus ofnadwy.

Yn ystod ei ymweliad aeth Hywel gyda Geraint i weld Nesta o Gricieth sydd wedi priodi Andy o Seland Newydd.



Hywel a PaulMae ganddyn nhw dri o blant, ac yn falch o gwmni Cymraeg Geraint a Sonia.

Dianc rhag y ddiod
Cyfarfu hefyd â Paul Francis o Fethesda, sy'n rhedeg busnes sgaffaldio llwyddiannus. Wedi damwain ddrwg, aeth trwy amser caled o yfed yn drwm i foddi'r boen. Mae'n dweud i'w fywyd newydd yn Seland Newydd achub ei fywyd.

'Swn i di aros yn Bethesda 'swn i 'di yfed fy hun i farwolaeth neu 'sa 'na rhywbeth wedi digwydd i fi, meddai.




cysylltiadau


awstralasia

Seland Newydd
Trefnu ymweliad i blant canser

Caffi Cymreig yn Seland Newydd

Llais y Maori

Y cyntaf i ddathlu Gwyl Dewi

Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

Golwg ar ffermydd Seland Newydd

Ymweliad Hywel

Diwylliant mewn peryg

Tywydd gwell wedi trochfa




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy