大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Gwenllian - ymlacio ar y traeth Ymweliad Hywel
Gwenllian Parry yn dweud y bydd yna siarad am amser hir am ymweliad Hywel Gwynfryn a Seland Newydd ar gyfer y rhaglen deledu, Ar Dy Feic.

Kia Ora Tatou!
Daeth Efa i mewn wedi bod yn sglefrfyrddio heno efo bag o ffrwythau nwydus yn un llaw a dau ffotograff yn y llall.

Lluniau o'r criw ffilmio yn cofnodi Hywel Gwynrfyn a minnau yn cyfarfod am y tro cyntaf ar y ffordd sydd rhwng ein ty ni a'r Cefnfor Tawel oedd ganddi.

"Lle ar wyneb y ddaear ges ti rheina?" oedd yr ymateb a gafodd hi!

Cymdoges sy'n byw i lawr y lôn oedd wedi eu rhoi nhw iddi. Nid ein bod ni'n 'nabod y gymdoges ond roedd hi, fel llawer o'r bobol leol yma wedi cymryd diddordeb yn y ffaith bod y 大象传媒 wedi dod i'n ffilmio fel teulu fis Hydref diwethaf.

Deathom allan i Aotearoa - Seland Newydd ym mis Ionawr, 2002 i dreulio blwyddyn a hanner yng ngwlad y Kiwi.

Roeddwn i wedi derbyn gwaith efo'r bwrdd iechyd yn Whakatane yn seicolegydd clinigol gyda gofal am blant, pobol ifanc a theuluoedd.

Un o'r rhesymau y cefais gynnig y gwaith oedd fy mod yn dod o ddiwylliant lleiafrifol fy hun ac wedi arfer byw yng nghysgod y bygythiad o golli iaith a thraddodiad, a'r ofn o golli hunaniaeth sy'n cerdded law yn llaw a'r bygythiad hwnnw.

Dyna hefyd fywyd beunyddiol y bobol Maori, sy'n ganran sylweddol o'r boblogaeth yn yr ardal yma o Aoteraroa - Seland Newydd.

Ddim yn hawdd
Doedd o ddim yn benderfyniad hawdd dod allan yma. Rhaid oedd i Carl roi'r gorau i'w fusnes ffotograffiaeth ym Methesda, ac roedd yn rhaid i Efa a Iago adael ffrindiau, ysgol a ffordd gyfarwydd o fyw.

Rhaid oedd dweud hwyl fawr wrth deulu: rhieni, neiniau, teidiau, chwiorydd a brawd, er mwyn treafaelio i ochr arall y blaned am flwyddyn a hanner o anturiaethau.

Prin yr oeddem yn gwybod ar y pryd ein bod am ddod ag antur i'r brodoion yn eu tro. Am gyffro a achosodd dyfodiad Hywel a'r criw ffilmio yn y dref fechan hon!

Tynnu at ei gilydd
Cyn i'r criw gyrraedd mynnodd y tîm rydw i'n gweithio ag o fod yr adeailad sy'n gartref i'n gwasanaeth angen sylw.

Felly dyma ferch leol yn cynnig gwenud y gerddi, a dyn oedd yn pasio (yn ein gweld yn tacluso) yn cynnig llnau y gwaith paent. Mae'r bobol yn hynod am dynnu at ei gilydd pan fo angen yma.

Roedd cyd-ddisgyblion Efa yn gyffro i gyd fod y criw am ddod i'r ysgol i'w ffilmio yn ymarfer y Kapa Haka.

Canu a dawnsio ydi'r Kapa Haka, sy'n uno pobol yn y presennol efo pobol y gorffennol ac sy'n dangos gwerthfawrogiad o ysbrydion da y ddaear a'r bydysawd sy'n cynnal bywyd.

Aeth y criw ffilmio i ysgol Iago hefyd, i weld sut maen nhw yn dechrau eu diwrnod o waith!

O bob twll a chornel
Tra'n ffilmio daeth pobol o bob twll a chornel i weld beth oedd yn digwydd. Yn un o'r golygfeydd roeddwn i a Hywel yn beicio i lawr y stryd fawr ac yr oedd yn rhyfeddol faint o bobol y siopau oedd yn ail-drefnu ffenestri'r siopau tra roeddem yn ffilmio, efo hanner llygaid ar y ffenest a'r un a hanner arall ar y camera!

Mewn golygfa arall aethom i'r archfarchnd leol Pak'N'Save.

Wel, am gywilydd! Pawb yn cymryd diddordeb, wrth gwrs. O fewn deng munud o orffen, daeth ffrind ataf i adrodd yn ôl i mi am yr hyn yr oeddem ni wedi'i ffilmio yn yr archfarchnad, wedi i rywun ei ffonio hi i adrodd yn ôl.

Mae rhai pethau yr un fath ble bynnag yr ydych chi'n byw!Mae Hywel yn dipyn o gês a rhwng siots rhoddodd berfformaid direudus inni yng nghanol y stryd o gymeriad Walïaidd yn ei anorac a'i helmed feic.

Roedd hi'n anodd i geidwaid y siopau guddio eu diddordeb trwy eu chwerthin. Hefyd wnai byth angofio ein ymweliad a'r ffair grefftau lleol ble mae Carl yn gwerthu ei luniau.

Penderfynodd Hywel gael massage pen efo rhyw declyn wedi'i wneud o weiran, oedd yn debyg i bry copyn android.

Ac am yr olwg ar ei wyneb pan oedd yn haneru y pen mochyn ar gyfer yr hangi (sef ffordd draddodiadol Maori o goginio)!

Ond yr hyn a'm tarodd i hefyd oedd y parch a'r sylw a roddodd Hywel a'r criw ffilmio i gyd i'r bobol ifanc a gyfarfyddasant. Yr hogiau sy'n derbyn gwasanaeth gennym a berfformiodd eu cân rap ar gyfer y rhaglen, a'r plant ysgol a berfformiodd y Kapa Haka gyda dwysder ysbryd.

Bydd sôn am yn hir yn Whakatane am yr amser y daeth y criw teledu o Gymru i ffilmio. 'Sgwn i faint mwy o bobol oedd allan efo'u camerau yn cofnodi'r cofnodi?

Roedd hi'n bleser cael Hywel, Gwennan. Steve a Dafydd draw am gyfnod.




Gair gan Efa
Mae byw yn Seland Newydd yn wahanol i adref. Mi rydym yn byw ar y traeth ag mae hi'n braf iawn yma.

Adref rydym ni'n byw yn y mynyddoedd lle mae'n oer. Cyn fy mhen-blwydd diwethaf mi wnes i gael surffboard ac rwy'n mynd allan yn y môr i surffio mor aml a phosib achos mae o'n gymaint o hwyl.

Cyn dod yma roedd hi'n anodd iawn gadael fy frindiau, teulu, ysgol ac wel, Cymru i gyd.

Mi wnes i adael Ysgol Penybryn ganol Ionawr 2002 ac mi rydwyf yn cadw mewn cysylltiad efo fy hen athrawes, Mrs Lloyd.

Mae fy ffrindiau rwan wedi symyd i Ysgol Dyffryn Ogwen, lle fydda i yn mynd pryd rydym yn dod yn ôl i Gymru fach.

Ar y funud dwi yn ysgol Whakatane Intermediate ac i ym mlwyddyn wyth.

Mi ydw i wedi 'neud lot o ffrindiau newydd ag doedd hi ddim yn anodd iawn i setlo i lawr.
Kia Ora!




cysylltiadau




awstralasia

Seland Newydd
Trefnu ymweliad i blant canser

Caffi Cymreig yn Seland Newydd

Llais y Maori

Y cyntaf i ddathlu Gwyl Dewi

Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

Golwg ar ffermydd Seland Newydd

Ymweliad Hywel

Diwylliant mewn peryg

Tywydd gwell wedi trochfa




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy