大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Hywel a Gwenllian Diwylliant mewn peryg
Mae Gwenllian Parry yn gweithio ymhlith y Maori yn Seland Newydd. Bu'n siarad am ei gwaith gyda Hywel Gwynfryn.

I'r Maori, Gwlad y cymylau gwynion yw Seland Newydd.

Dyma beth y ddarganfu Gwenllian Parry o Benisa'rwaun wedi symud yno ac mae wrth ei bodd gyda'r wlad.

Mae hi'n seicolegydd clinigol gyda'r Maori yno ac yn byw bywyd gwahanol iawn gyda'i phartner Carl sy'n ffotograffydd, a'u plant Efa ac Iago i'w bywyd blaenorol yn y Gerlan ger Bethesda.

Ymweliad â nhw oedd un olaf Hywel Gwynfryn ar gyfer yr ail gyfres o Ar Dy Feic (dydd Sul, Mai 11, 大象传媒 Cymru ar S4C).

Problemau cymdeithasol
Dywedodd Gwenllian fod problemau cymdeithasol dyrys ymysg cymdeithas y Maori yn Whakatane lle mae hi'n byw a gweithio, gyda nifer fawr o achosion o iselder ysbryd a hunanladdiad - yn enwedig ymysg y dynion.

A hithau'n dod o gefndir lleiafrifol ei hun mae'n ei chael yn hawdd uniaethu â'r Maori ac yn deall eu teimladau ynglŷn â'r ffaith iddynt golli llawer o'u diwylliant.

'Sa chi'n gofyn wrth rywun pakia, sef rhywun Ewropeaidd, mi fasan nhw'n deud achos bod na ddiweithdra, problem cyffuriau, dim pres, tlodi ofnadwy, meddai Gwenllian am y problemau.

Ond sa chi'n gofyn i berson Maori 'sa nhw'n deud oherwydd bod eu cerfluniau, eu marais nhw, sef eu tai cyfarfod, wedi cael eu difetha, wedi cael eu llosgi i lawr gan y bobl wyn ac felly mae eu hysbryd nhw wedi cael ei niweidio.

Gwybod pwy ydyn nhw
"Dwi'n meddwl nad ydi'r bobl hyn yn gwybod pwy ydyn nhw; maen nhw wedi colli golwg o'u diwylliant; maen nhw wedi colli golwg o be maen nhw'n mynd i'w wneud efo'u bywydau a dwi'n meddwl mai wrth eu helpu nhw i benderfynu a sylweddoli be allan nhw wneud efo'u bywydau. Bydd hynny yn rhoi hyder iddyn nhw feddwl bod rhywbeth i fyw amdano," meddai.

Bu Gwenllian yn annog dau fachgen ifanc o dras Maori sy'n dioddef o iselder ysbryd i gychwyn grŵp rap ac i gyfansoddi cân yn sôn am eu profiadau cân sy'n ddirdynnol.

Yn ogystal â dysgu mwy am waith Gwenllian profodd Hywel hefyd wledd draddodiadol y Maori.

Dychwelyd i Gymru
Er bod ei bywyd i bob pwrpas yn un delfrydol yn Seland Newydd dychwelyd i Gymru fydd Gwenllian yn y pen draw.

'Da ni yn mynd yn ôl. Y ffordd dwi'n meddwl amdano ydi, mae fel bod wedi priodi, a chael ffling bach. Da chi'n gwybod lle mae'ch calon chi. Ryda chi'n mwynhau y cyfnod 'dach chi yna, ond ffling ydi o. A mynd nôl adre fyddwn ni.





cysylltiadau




awstralasia

Seland Newydd
Trefnu ymweliad i blant canser

Caffi Cymreig yn Seland Newydd

Llais y Maori

Y cyntaf i ddathlu Gwyl Dewi

Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

Golwg ar ffermydd Seland Newydd

Ymweliad Hywel

Diwylliant mewn peryg

Tywydd gwell wedi trochfa




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy