Pwy neu beth yw'r Teigrod Tamil? Mudiad gwleidyddol hynod ddadleuol yn Sri Lanca yw'r Teigrod Tamil, sydd yn cael ei ystyried yn fudiad terfysgol gan sawl gwlad dramor.
Nod y mudiad yw sicrhau fod gogledd a dwyrain Sri Lanca yn gwbl annibynnol o'r brifddinas, Colombo.
Cymdeithas Fwdhaidd yw Sri Lanca ar y cyfan, tra bo'r Tamiliaid yn dod o draddodiad Hindŵaidd yn yr India.
Mudodd y Tamiliaid i Sri Lanca (neu Seilon bryd hynny) yn lluoedd mawr i weithio yn y planhigfeydd tê a choffi a reolwyd gan Brydain.
Pa mor fawr yw'r mudiad? Yn ôl arbenigwyr, mae tua 12,000 o ddynion a merched wedi eu hyfforddi i ymladd ar gyfer y mudiad.
Mae swyddogion plant y Cenhedloedd Unedig yn pryderu fod y mudiad hefyd yn recriwtio bechgyn a merched ifanc iawn.
Ar ben hynny, honnir fod y Teigrod yn mynd ymhell y tu hwnt i'r hyn sy'n angenrheidiol ar faes y gâd: yn 1999, er enghraifft, cafwyd adroddiadau fod y Teigrod wedi llofruddio pentref cyfan mewn ardal Sinhalaidd.
O ble mae'r Teigrod yn cael eu harian a'u hadnoddau? O safbwynt arfau, credir fod llywodraeth yr India wedi bod yn gefnogol i'r Teigrod.
Hefyd, mae'r mudiad bellach yn un rhyngwladol, gyda chudd-weithredwyr yn prynu arfau soffistigedig ar hyd a lled Ewrop.
Mae'n debyg mai cyfoethogion Tamilaidd yn y Gorllewin yw asgwrn cefn y mudiad yn ariannol, ond mae sôn fod llawer o arfau hefyd wedi eu dwyn o wasanaethau diogelwch Sri Lanca.
Sut mae'r Teigrod yn gweithredu, fel arfer? Ers y cadoediad yn 2002, bu'r Teigrod yn llawer llai treisgar, ond ceir ymosodiadau ar unigolion o dro i dro. Cyn hynny, hunanfomio oedd pendraw gyrfa pob Teigr ffyddlon, yn arbennig wrth weithredu o gwmpas Colombo yn y Naw Degau.
Yn ôl arbenigwyr, mae'r Teigrod yn gyfrifol am bum gwaith yn fwy o hunanfomwyr na phob mudiad arall tebyg iddo gyda'i gilydd.
Dolennau
|