大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Cyfeillion llai ffodys Nepal - ail ymweliad
Cyfeillgarwch rhwng ysgolion yng nghefn gwlad Cymru a Nepal

Ebrill 2002


Yn prysur bacio ei chês ar gyfer ei hail ymweld â Nepal mae Dilys Elis, Dirprwy Brifathrawes Ysgol Maes Hyfryd yng Nghynwyd.

Y llynedd bu yno yn edrych ar addysg y wlad a chysylltu ag ysgolion i greu partneriaeth mewn addysg drwy efeillio.

Wedi efeillio ag ysgol yng NghymruEleni bydd yn mynd â ffrindiau efo hi gyda'r bwriad o drecio i Pochara a mynyddoedd Annapurna yn ystod y pythefnos y byddan nhw yn y wlad.

Ond yn bwysicach na hynny mae hi'n edrych ymlaen at weld yr ysgol sydd wedi ei chyfeillio a'i hysgol hi yng Nghynwyd.

"Erbyn heddiw mae'r cysylltiad yn un cryf iawn a dwi'n teimlo fy mod yn adnabod y plant ac wedi dysgu cymaint am eu bywydau, eu crefydd a'u diwylliant drwy'r llythyrau sydd yn cael eu hanfon i'r ysgol," meddai Dilys sy'n byw yng Ngherrigydrudion.

Cyfoethogi trwy ddod i wybod am dlodi

Dywedodd ei bod yn gobeithio i'r profiad o ddysgu am wlad fel Nepal gyfoethogi ei disgyblion yng nghefn gwlad Cymru.

"Ry'n ni wedi gwneud tipyn o waith ar y wlad, wedi gwneud masgiau, dysgu am eu crefydd a'r holl dduwiau sy'n cael eu haddoli. Mae'n anodd i blant y wlad yma ddygymod â'r gwahaniaeth ac yn sgil yr addysg yma dwi'n gobeithio bydd y plant yn tyfu'n ddinasyddion byd-eang."

Yn eistedd ar ei gwely a'i chês yn llawn i'r ymylon, nid yw Dilys yn poeni am y daith i Nepal.

"Mae na waith newid ar yr oriawr wrth deithio ond dwi'n mwynhau cyfarfod y plant sydd yn byw bywyd tra gwahanol i blant yn y wlad yma. Mae na le mawr inni ddiolch."

Wedi naw diwrnod yno y llynedd a chael y cyfle i ymweld â nifer o ysgolion y wlad, penderfynwyd mynd ati'n syth i geisio cynorthwyo ysgol fechan Jaleshwory yn Dhading, rhyw dair awr o daith o'r brifddinas Kathmandu.

Dod at ei gilydd i hel arian

Daeth Ysgol Maes Hyfryd ac Ysgol Gellifor at ei gilydd i gasglu arian i helpu trwsio'r adeilad a chael dwr a thoiledau yno.

"Ma na gysylltiad agos iawn wedi ei gadw dros y flwyddyn a phrifathro'r ysgol yn Jaleswhory yn y paratoi a'r cynllunio ar gyfer yr ysgol arbennig yma," meddai.

"Yn ystod ein taith y llynedd fe fu yno gyfarfod a'r prifathro ac aelod seneddol yr ardal er mwyn trafod beth oedd eu hamcanion. Gan fod yno gymaint o waith atgyweirio a gwella ar yr ysgol mae na sôn efallai y byddai'n well mynd ati i godi ysgol newydd yn hytrach na mynd drwy'r broses hir o atgyweirio," ychwanegodd.

"Mae hi'n wlad dlawd ofnadwy a theulu'r plant yn gorfod talu am eu haddysg. Oherwydd hyn mae yno wahanol safonau o addysg gyda'r rhai sy'n gallu talu yn cael addysg reit dda ond y rhai tlawd yn gorfod cael addysg heb bapur na phensel ac yn cael eu dysgu mewn sied ar lawr o fwd."

Llythyru a'i gilydd

Am y cysylltiad â Chymru dywedodd:
"Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae'r plant wedi bod yn disgwyl yn eiddgar am fan y postman gyda llythyrau oddi wrth blant Nepal. Mae Rakesh 14 oed wedi bod yn ysgrifennu yn gyson ac yn anfon nodyn i bob un o blant blynyddoedd pump a chwech ynghyd â chardiau post.

"Gyda'r nodiadau yma mae'r plant wedi eu cyfoethogi ymhellach o wybod am draddodiadau a gwyliau Nepal.

"Mae athro yno hefyd, Lamani Joshi, wedi cadw cysylltiad agos ac mae'n gobeithio dod drosodd i Fangor i astudio am chwe mis."

Mae'r ty yng Ngherrigydrudion yn llawn lluniau, dillad ac atgofion o ymweliad y llynedd a chasglodd arian trwy ddangos sleidiau i Ferched y Wawr a sefydliadau eraill.

"Er ein bod ni wedi sefydlu cronfa yma yng Nghymru i gyfoethogi addysg y plant yn Nepal, mae'n bwysig hefyd fod ysgolion a phobl Nepal yn mynd ati i gasglu arian eu hunain er mwyn gweld gwerth yn yr hyn maent wedi ei adeiladu," meddai Dilys.



cynnal eu gilyddBydd siec o £3,000 gan gronfa elusen a sefydlodd Ysgol Gellifor ac Ysgol Maes Hyfryd ym mhoced Dilys i'w throsglwyddo yn ystod ei hymweliad.

"Rydym ni wedi cael nosweithiau coffi, raffls ac ysgrifennodd y plant at fusnesau a chwmnïau lleol yn gofyn am gefnogaeth," meddai.

Wedi i Dilys ddychwelyd i gefn gwlad Cymru bydd rhai o blant bach Nepal yn gwisgo crysau t arbennig Ysgol Maes Hyfryd gyda'r Ddraig Goch arnyn nhw ac y talwyd amdanyn nhw gan Terry Hooson, cwmni Snap On.

"Lle i'r crysau T, pensiliau, papurau ysgrifennu, dwi eisiau fwyaf yn y cês," meddai.

"Dwi'n gobeithio yn fawr fod plant bach Cymru yn sylweddoli eu bod yn lwcus ac yn freintiedig iawn, a thrwy'r gefeillio fod Ysgol Maes Hyfryd yng Nghynwyd yn fwy ymwybodol o rai llai ffodus na'i gilydd."




asia
asia
> China
> Hong Kong
> India
> Pacistan
> Siapan
> Taiwan

Tsunami - gofid a phryder Cymraes

Nepal - ail ymweliad

Nepal - cymorth artistiaid

O Gymru i'r Himalaya

Deng niwrnod yn Ne Korea

Sri Lanca: Ffau'r teigrod

Teigrod Tamil - Cwestiwn ac ateb



About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy