大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Deng niwrnod yn Ne Korea
Shaun Ablett o Lanybydder yn cael blas ar dde Korea

Fis Gorffennaf 2007, fe es i am drip deng niwrnod i Dde Korea wedi i un o'm ffrindiau sy'n dod oddi yno ofyn a hoffwn gael profiad o wlad gyda thraddodiadau hollol wahanol.

Dewisais fynd ar ben fy hun gan y byddwn yn cael mwy o brofiad personol o wneud hynny.

Gweld cymaint
Cefais ddeng niwrnod ardderchog a gweld cymaint o bethau bythgofiadwy.

Ymwelais â Byd Lotte, math o Disneyland ond bod y rhan fwyaf ohono dan do.

Roedd y sioeau lleol yno yn ardderchog a dangoswyd y bobl leol yn dawnsio a dringo rhaffau - y cyfan fel gwylio athletau a rhaglen National Geographic ar yr un pryd.
Diddorol iawn!

Ymwelais ag amgueddfa wahanol bron bob dydd yn ogystal â lleoedd o ddiddordeb fel tai traddodiadol y wlad gan deimlo weithiau fel disgybl mewn gwers hanes gan imi gael llawer o wybodaeth hanesyddol yn ymestyn yn ôl ganrifoedd.

Ymwelais â'r brifddinas, Seoul, nifer o weithiau hefyd.
A minnau'n dod o bentref bychan yn Sir Gaerfyrddin rwy'n siŵr y gallwch ddychmygu sut deimlad oedd bod mewn dinas mor enfawr gyda chymaint o bobl ar y strydoedd.

Yn wir, roedd pob siop unigol yn mwy na phentref Llanybydder i gyd!

Ond fyddwn i byth wedi mynd ar goll, oherwydd allan o'r miloedd ar filoedd sy'n byw yn Seoul, fi oedd yr unig un gyda gwallt coch!

Technoleg
Anodd credu pa mor arbennig yw'r dechnoleg yno.
Wyddwn i ddim taw cwmni o Dde Korea yw Samsung er enghraifft.

Roeddwn yn ffodus iawn i gwrdd â llawer o bobl leol a dysgu llawer amdanyn nhw.

Roedd hi'n anodd deall eu Saesneg ac, yn wir, roedd llawer ohonynt hwythau yn methu neall innau a bu'n rhaid imi ddefnyddio llawer ar fy nwylo i gyfathrebu!

Mae'n anodd cyfleu pa mor hyfryd oedd y bobl a chefais fy nghroesawu fel brenin ym mhob man!

Cefais lawer o sgyrsiau yn Saesneg gyda nhw a thipyn o sgyrsiau yn y Gymraeg hefyd gan nad oeddwn i am deithio i ben draw'r byd heb ddysgu bach o Gymraeg iddyn nhw a sôn am Gymru fel gwlad.

Ysgrifen y wlad Ar y cychwyn roedd eu hacen yn eithaf doniol wrth iddynt ddweud pethau Cymraeg syml fel 'Bore da' a 'Diolch yn fawr' ond erbyn diwedd yr ymweliad yr oedde nhw'n dda iawn.

Dysgais innau dipyn o eiriau eu hiaith hwythau hefyd ond mae'n iaith gymhleth ac anodd iawn!

Cristion o Gymru
Sylweddolais cyn dod adref fod pobl De Korea yn hoff iawn o Gymry a hynny oherwydd i Gymro fod yn genhadwr yno a'u dysgu am Gristnogaeth.

Byddwn yn cynghori unrhyw un i fynd allan i Dde Korea gan imi gael profiad bythgofiadwy yno gyda chymaint o bethau i'w gweld a'u gwneud yno.

Mae'r bobl yn garedig iawn ond efallai na fydd y bwyd at ddant pawb - ond mae bwyty Mcdonalds ar ben pob stryd.

Rwy'n gobeithio dychwelyd yno cyn bo hir.

  • Cyhoeddir yr erthygl hon yn rhan o gynllun cyfrannu i bapurau bro sy'n parhau tan Ionawr 2008 rhwng 大象传媒 Cymru ac Antur Teifi. Am fwy o fanylion ac i wybod sut y gallwch ennill £30 am ysgrifennu - Cliciwch






  • asia
    asia
    > China
    > Hong Kong
    > India
    > Pacistan
    > Siapan
    > Taiwan

    Tsunami - gofid a phryder Cymraes

    Nepal - ail ymweliad

    Nepal - cymorth artistiaid

    O Gymru i'r Himalaya

    Deng niwrnod yn Ne Korea

    Sri Lanca: Ffau'r teigrod

    Teigrod Tamil - Cwestiwn ac ateb



    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy