Chwarae efo t芒n - cornel fach eithaf poblogaidd ar Faes Eisteddfod Genedlaethol Abertawe ydi'r gwersyll gwylltgrefft ym Mhentref Mr Urdd.
Yno mae Arwel Phillips o Fethesda a Hefin Peregrine o Gefneithin yn dangos y sgiliau sydd eu hangen i fyw yn y gwyllt.
Dywedodd Hefin bod hwn yn ddiddordeb sydd wedi cynyddu'n arw dros y blynyddoedd diwethaf yn sgil rhaglenni teledu rhai fel Ray Mears a Bear Grylls.
Mae'r ddau yn arddangos pethau fel sut i drefnu lle i gysgodi, cynnau t芒n, cadw'ch hun yn gynnes a bwydo'ch hun os yn cael eich dal yn y gwyllt.
Yn boblogaidd iawn ymhlith y plant sy'n ymweld 芒'r gwersyll mae twymo marshmalows mewn t芒n agored.
Piciwch draw, i ddeffro'ch cyntefigrwydd cynhenid a chael gwybod mwy am gyrsiau gwylltgrefft yr Urdd . . .
Straeon heddiw
Cysylltiadau
Dysgu
Syrcas Gerdd
Dewch draw i'r Syrcas Gerdd i fwynhau gweithgareddau cerddorol rhyfeddol ar gyfer plant 7-11 oed.