大象传媒

Shane oddi ar y maes

03 Mehefin 2011

Fel mae chwaraewyr rygbi mewn sawl gwlad yn gwybod dydi Shane Williams ddim yn un hawdd i'e ddal a'i gornelu.

Ac fe fethodd yr Urdd, ddydd Gwener Eisteddfod Genedlaethol Abertawe lle'r oedd i fod ar y maes fel llywydd y dydd.

Ond methodd Shane a bod yno oherwydd ei fod yn ymarfer gyda charfan Cymru a bu'n rhaid bodloni ar neges oedd wedi ei pharatoi ynghynt ganddo yn canmol yr Urdd a'r gweithgareddau y mae'r mudiad yn eu paratoi.

Yn grwt arferai Shane gystadlu gyda ch么r ei ysgol ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd.

"Fe wnes i gystadlu mewn c么r gydag Ysgol Uwchradd Cwmaman ac er i ni gyrraedd yr Eisteddfod Genedlaethol, doedden ni ddim digon da i gyrraedd y llwyfan. O'n ro'n i'n joio canu pan oeddwn i'n ifanc, ond fe newidiodd y llais, a sa i'n gallu canu'n dda nawr!" meddai.

Canmolodd yn arbennig yr amrywiaeth y weithgareddau y mae'r Urdd yn eu cynnig i bobl ifainc.

"Mae'r Urdd yn cynnig digon o amrywiaeth fel bod pawb yn gallu cymryd rhan. Mae'n bwysig iawn fod plant yn cael cyfle i wneud pethe fel chwaraeon drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd," meddai.

"Rwy' wedi bod yn mynd i Eisteddfodau gyda'r Gweilch ac mae'n neis i rai o'r bois sydd ddim yn siarad Cymraeg ac sydd heb fod i'r Eisteddfod o'r blaen gael gweld sut beth yw e a chael cwrdd 芒 phlant a chymryd rhan mewn sesiynau rygbi 'da nhw," ychwanegodd.

"Ganwyd Shane yn Nhreforys o fewn tafliad carreg i faes yr Eisteddfod a'i fagu yng Nglanaman.

Yn chwarae i'r Gweilch a Chymru daeth yn un asgellwyr mwyaf cyffrous y byd a'i ddewis yn Chwaraewr Rhyngwladol y Flwyddyn yn 2008.


Dysgu

Gweithgareddau cerddorol ar gyfer plant 7-11 oed

Syrcas Gerdd

Dewch draw i'r Syrcas Gerdd i fwynhau gweithgareddau cerddorol rhyfeddol ar gyfer plant 7-11 oed.

G锚m y Gof

G锚m y Gof

Chwarae

Gweithia dy ffordd trwy'r pedair lefel i ddod yn feistr yng ngefail y castell.

Ffeil

Darllenwch y penawdau newyddion, chwaraeon diweddaraf a'r ar dudalen newydd Ffeil.

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.