大象传媒

Llwyddiant G锚m yr Urdd ar y Liberty

Chwifio baner yr urdd yn y gem

17 Ionawr 2011

Yr oedd yn bnawn Sadwrn llwyddiannus ym mhob ffordd i'r Urdd ac i glwb p锚l-droed Abertawe bnawn Sadwrn Ionawr 15, 2011.

Ymunodd cynrychiolwyr 40 o ysgolion Abertawe a'r Fro a chefnogwyr Stadiwm Liberty i groesawu Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd i'r ardal yn ddiweddarach ac i weld yr Elyrch yn curo Crystal Palace 3-0.

Hon oedd y g锚m a glustnodwyd yn G锚m yr Urdd gyda 1,750 o gefnogwyr y Mudiad yn ogystal 芒 Mistar Urdd wedi teithio i'r Liberty.

Ymhlith y rhai a enwebwyd i fod yn rhan o gwarchodlu yn croesawu'r chwaraewyr ar y cae yr oedd Katie Davies a Ruby Tomkinson o Ysgol Gynradd Glais yn y ddinas ac meddai Ruby sy'n 11 oed, "Dwi wrth fy modd efo p锚l-droed felly bydd yn gr锚t cael bod yn rhan o achlysur mor fawr."

Bu Thomas James, 10, disgybl yn Ysgol Gymunedol St Thomas, yn fuddugol mewn cystadleuaeth yn y South Wales Evening Post i fod yn fasgod yn y g锚m.

"Dwi wedi cyffroi," meddai cyn y g锚m. "Dwi wrth fy modd yn gweld y Swans yn chwarae ac wedi bod i'r stadiwm nifer o weithiau'r tymor yma."

Ychwanegodd y bwriadai fynychu'r g锚m beth bynnag ond bod gwefr arbennig cael gwisgo'r cit a mynd ar y cae efo'r chwaraewyr!

Manteisiodd cefnogwyr yr Urdd ar gynnig arbennig ar docynnau i'r g锚m gydag oedolion yn talu 拢10 yn unig am docyn ac yn cael dod 芒 hyd at bedwar plentyn gyda hwy i fwynhau'r achlysur.

Aeth hanner arian y tocynnau a werthwyd drwy'r Urdd i gronfa leol yr Eisteddfod.


大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.