Alex Jones, John Owen-Jones a Cerys yn rhannu llwyfan
Alex Jones, cyflwynydd The One Show ar 大象传媒 1 a John Owen-Jones fydd yn agor Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Abertawe 2011 gyda Chyngerdd Agoriadol arbennig.
Yn ymuno a nhw bydd Cerys Matthews sy'n un o lywyddion y dydd yn yr Eisteddfod.
Bydd yn canu caneuon traddodiadol a newydd
Canmolwyd John fel Jean Valjean gorau yr holl gynyrchiadau o Les Miserables a fu hyd yn hyn.
Yn ystod wythnos yr Eisteddfod bydd plant a phobl ifanc ardal Abertawe yn ail-greu dau ddigwyddiad hanesyddolo bwys i'r ardal.
Bydd cast y Sioe Ieuenctid yn cofio'r bomio mawr fu yn Abertawe Chwefror 19 i 21 gan awyrennau'r Almaen 70 mlynedd yn 么l .
Yn addas iawn, teitl y sioe fydd Abertawe'n Fflam yn adlais o gerdd Waldo williams.
Bydd sioe'r ysgolion cynradd, Melltith yr Helfeshia, yn olrhain hanes llongddrylliad yr Helfeshia ar draeth Rhossili yn 1887.
Talentau newydd
Yn y cyngerdd agoriadol gydag Alex Jones a John Owen-Jones bydd rhai o s锚r newydd Cymru; enillydd Ysgoloriaeth Bryn Terfel Elgan Llyr Thomas, y ddawnswraig Cerian Phillips a Dawnswyr Talog, Ysgol Gerdd Mark Jermin.
Yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Gymraeg Rhydaman ac yn aelod o Alwyd Penrhyd, bu Alex yn gystadleuwraig frwd gyda'r Urdd a dywed ei bod yn edrych ymlaen at gael dychwelyd i fro ei mebyd i gael cymryd rhan yn y Cyngerdd Agoriadol.
"Mae'r Urdd yn unigryw i ni fel Cymry a dwi mor ddiolchgar am yr holl gyfleoedd ges i o gael mynd ar lwyfan a pherfformio. Ro'n i'n eitha' swil fel plentyn felly roedd cael mynd ar y llwyfan fel rhan o barti dawnsio neu ganu yn gymaint o hwb. Heb y cyfleoedd yna, efallai na fyddwn i byth wedi bod o flaen cynulleidfa pan o'n i'n ifanc," meddai.
Caru perfformio yng Nghymru
O Borth Tywyn y daw John Owen-Jones sydd newydd fwynhau cyfnod gyda sioe i ddathlu chwarter canrif o Les Miserables. Mae ar hyn o bryd yn chwarae Phantom of the Opera yn Llundain.
"Rwyf wrth fy modd o gael canu yng Nghyngerdd Agoriadol Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Rwy'n caru perfformio yng Nghymru a methu aros i gael bod ar lwyfan y pafiliwn, gan fod y gynulleidfa bob amser yn wresog ac yn creu awyrgylch wych.
"Mae'n anhygoel i nodi faint o berfformwyr Cymreig heddiw sydd wedi graddio o gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd i berfformio ar lwyfan y West End a bydd yr Eisteddfod yn Abertawe eleni yn siwr o ganfod mwy o dalent ifanc. Hir y perith!"
Pris tocynnau yw 拢10 ac ar gael drwy ffonio 0845 257 1639 neu ar
Straeon heddiw
- - Cyrraedd maes y Steddfod
- Alex yn 么l ar lwyfan yr Urdd
- Coron gyntaf Mari i'r Urdd
- Cyril y Swan yn cefnogi
- Eisteddfod yr Urdd 2002 - 2011
- Eisteddfodau 2002 - 2010
- Ennill Tlws John a Ceridwen Huighes
- Gwahoddiad i Joio da'r Jacs
- GwyddonLe - prifysgol yn cefnogi
- Llwyddiant G锚m yr Urdd ar y Liberty
- Y Goron a'r Gadair
- Ysgoloriaeth Bryn Terfel 2010