Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Enwebu Christine James yn Archdderwydd
Yn Seremoni Gyhoeddi Eisteddfod Sir Ddinbych a'r Cyffiniau cyhoeddodd yr Archdderwydd Jim Parc Nest taw un enwebiad oedd wedi ei dderbyn ar gyfer swydd Archdderwydd yn ystod y cyfnod 2013-16.
"Er bod rhaid i gyfarfod blynyddol yr Orsedd gadarnhau'r enwebiad hwn yn y cyfarfod yn ystod yr Eisteddfod eleni, rwyf am gyhoeddi, a hynny'n hapus iawn, mai enw Christine James o Gaerdydd, fydd yn mynd gerbron y cyfarfod blynyddol ym Mro Morgannwg.
"Hi yw'r ferch gyntaf i gael ei henwebu fel Archdderwydd ac mae'n braf iawn cael cyhoeddi hynny," meddai.
Prif wobrau
"Yr hyn sy'n nodweddiadol am gysylltiad yr Eisteddfod 芒 Sir Ddinbych yw mai yno y crewyd hanes wrth i fenywod ennill y prif wobrau llenyddol am y tro cyntaf.
"Dilys Cadwaladr enillodd y Goron yn Y Rhyl yn 1953 a Mererid Hopwood enillodd y Gadair yn Ninbych yn 2001.
"Christine hefyd yw'r ddysgwraig gyntaf i gael ei henwebu i swydd yr Archdderwydd ac mae hyn hefyd yn destun llawenhau i ni fel cenedl," meddai'r Archdderwydd Jim Parc Nest.
"Llongyfarchiadau mawr i Christine ar ei henwebiad a mawr obeithiaf y bydd hi'n eich annerch chi o'r Maen Llog yn Seremoni'r Cyhoeddi y flwyddyn nesaf."
Uniaith Saesneg
Yn wreiddiol o Donypandy yng Nghwm Rhondda, magwyd Mrs James ar aelwyd uniaith Saesneg ac fe ddysgodd y Gymraeg fel ail iaith tra'n ddisgybl yn Ysgol Ramadeg y Merched Y Porth.
Wedyn enillodd radd anrhydedd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae'n Uwchddarlithydd yn Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe, ac yn byw yng Nghaerdydd.
Mae'n briod 芒 Wyn ac yn fam i Eleri, Emyr ac Owain, ac yn fam-gu newydd sbon i Trystan Marc.
Gweithiau celf
Enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri a'r Cyffiniau yn 2005 am ei chasgliad o gerddi, Lluniau Lliw, a ysbrydolwyd gan rai o weithiau celf mwyaf enwog Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Dywedodd y beirniad, Derec Llwyd Morgan, fod hwn yn "gasgliad o farddoniaeth caboledig a chyffrous".
Roedd Christine hefyd ymhlith enillwyr y gystadleuaeth farddoniaeth ryngwladol F茅ile Fil铆ochta sawl gwaith ac roedd yn fardd gwadd Y Lle Celf yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a'r Cylch 2008.
Fe'i derbyniwyd i'r Orsedd yn 2002 ac mae'n aelod o Fwrdd yr Orsedd ers 2010.
Daw cyfnod yr Archdderwydd presennol i ben ddiwedd Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg.
Caiff yr Archdderwydd newydd ei urddo yn Seremoni Gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol 2014 a hynny ym mis Mehefin 2013.