大象传媒

Datganoli pellach yn 'ddeniadol' i Cameron

  • Cyhoeddwyd
David Cameron
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Mr Cameron mai un o'r "materion go iawn" oedd adfywiad economaidd Cymru

Mae'r prif weinidog David Cameron wedi gwadu honiad bod y Ceidwadwyr yn rhwystro datganoli mwy o bwerau i Gymru.

Dywedodd wrth 大象传媒 Cymru bod y syniad o Lywodraeth Cymru'n medru codi peth o'i chyllideb ei hun yn ddeniadol iddo.

Bron flwyddyn yn 么l fe ddywedodd Comisiwn Silk, a sefydlwyd gan Lywodraeth y DU, y dylai gweinidogion yng Nghaerdydd gael pwerau i newid rhai graddfeydd treth.

Roedd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg wedi honni bod ymateb i argymhellion y Comisiwn wedi cael ei ddal yn 么l gan y Ceidwadwyr.

Disgrifiodd Mr Cameron rhyw fath o "swigen yng Nghaerdydd" oedd ag obsesiwn gyda phwerau'r Cynulliad, ond bod gan bleidleiswyr flaenoriaethau eraill gan gynnwys adfywio'r economi a'r gwasanaeth iechyd.

Mewn cyfweliad gyda 大象传媒 Cymru, wrth i'r Ceidwadwyr gynnal eu cynhadledd flynyddol ym Manceinion, dywedodd Mr Cameron:

"Mae'r syniad y dylai cynrychiolwyr Cymru feddwl am sut i godi arian yn ogystal 芒'i wario - fel Ceidwadwr sy'n credu bod angen i ni fod yn ofalus gydag arian cyhoeddus ac arian y trethdalwr - yn un deniadol.

"Rwy'n credu mai'r materion go iawn yng Nghymru nawr yw sut y gallwn adeiladu adfywiad economaidd. Ond wrth gwrs rhaid i ni setlo'r mater pwerau yma hefyd.

"Mae swigen yng Nghaerdydd gydag obsesiwn gyda phwerau tra bod pobl Cymru mewn gwirionedd am gael canlyniadau."

Gofynnwyd i Lywodraeth Cymru am ymateb.

Yn gynharach yn y mis, dywedodd Mr Clegg y byddai eisoes wedi cytuno i roi pwerau i newid graddfeydd treth pe bai e'n brif weinidog.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol