大象传媒

Silk: 'Angen pwerau ar frys'

  • Cyhoeddwyd
SeneddFfynhonnell y llun, Other

Mae Cyngor Adnewyddu'r Economi wedi galw ar lywodraeth y DU i weithredu argymhellion Comisiwn Silk a datganoli treth stamp i'r Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith.

Mae'r cyngor - o dan gadeiryddiaeth prif weinidog Cymru Carwyn Jones - yn cynnwys y CBI, TUC Cymru, Sefydliad y Cyfarwyddwr (IoD), Ffederasiwn Busnesau Bach a phartneriaid eraill.

Dywedodd y cyngor bod angen datganoli'r dreth yn syth fel y gall Llywodraeth Cymru gael pwerau benthyg ar gyfer cynlluniau isadeiledd.

'Annerbyniol'

Bydd Cyngor Adnewyddu'r Economi yn cwrdd yng Nghaerdydd ddydd Mercher, a cyn y cyfarfod dywedodd Carwyn Jones:

"Rwy'n siomedig iawn am y diffyg gweithredu gan lywodraeth y DU ar y mater yma sy'n hanfodol i Gymru.

"Er gwaethaf y cytundeb ar draws y pleidiau o blaid argymhellion Comisiwn Silk, mae bron i flwyddyn wedi mynd heibio ac mae'n hen bryd gweld gweithredu.

"Mae'n annerbyniol mai Cymru - fel ag y mae pethau ar y funud - yw'r unig ran o'r DU sydd ddim yn medru benthyg i fuddsoddi mewn isadeiledd."

'Niweidio busnes'

Roedd cefnogaeth i safbwynt Mr Jones gan fwyafrif y cyrff sy'n rhan o'r Cyngor. Dywedodd cyfarwyddwr CBI Cymru Emma Watkins:

"Rydym yn bryderus bod dyfodol ffordd lliniaru'r M4 o dan fygythid. Mae angen penderfyniad ar frys am bwerau benthyg i Lywodraeth Cymru fel y gall fwrw 'mlaen i adeiladu'r porth yma sy'n hanfodol i economi de Cymru.

"Mae'r oedi parhaus cyn y cyhoeddiad am Gomisiwn Silk yn niweidio hyder busnes, sydd yn ei dro yn rhwystro ymdrechion i yrru'r economi ymlaen."

Ychwanegodd ysgrifennydd cyffredinol TUC Cymru Martin Mansfield: "Mae Cymru o dan anfantais glir ac annheg o dan y sefyllfa bresennol.

"Dylai llywodraeth y DU weithredu ar unwaith i ddatganoli pwerau ar fenthyg a threth stamp... ac mae'r oedi ar y materion yma yn dangos diffyg parch at ddatganoli mewn cyfnod lle mae dirfawr angen buddsoddiad ar ein heconomi."

'Atebol'

Cadeirydd uned bolisi Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru yw Janet Jones.

"Rydym yn rhannu siom y prif weinidog am yr oedi cyn datganoli treth a phwerau benthyg," meddai.

"Byddai datganoli'r pwerau yn rhoi'r gallu i Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn isadeiledd economaidd, ac o ganlyniad yn gwneud Llywodraeth Cymru'n fwy atebol yn unol ag argymhellion Comisiwn Silk."

Mae ymateb llywodraeth y DU i argymhellion Comisiwn Silk wedi bod yn destun cecru o fewn y glymblaid yn San Steffan.

Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Nick Clegg wedi rhoi'r bai ar y Ceidwadwyr am yr oedi, ond mae David Cameron wedi gwadu hynny.

Mae llywodraeth San Steffan yn dweud y byddan nhw'n cyhoeddi eu hymateb i argymhellion y Comisiwn "mewn da bryd".

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol