Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Atomfa newydd: Cymru'n elwa?
Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi caniat芒d i godi atomfa niwclear newydd yn Hinkley Point, yng Ngwlad yr Haf.
Hon fydd yr atomfa gyntaf i'w chodi ym Mhrydain ers cenhedlaeth.
Cafodd y newyddion ei groesawu gan CBI Cymru ac Ysgrifennydd Cymru.
Dywedodd Owain Davies, o CBI Cymru, y bydd yna gyfle i fusnesau yng Nghymru elwa o'r buddsoddiad.
Mae Hinkely Point rhyw awr o daith o Gasnewydd.
"Bydd yna rai pobl yn fodlon teithio awr er mwyn cael swyddi, a bydd hwn yn gyfle mawr i fusnesau yng Nghymru.
"Hefyd mae'n gam ymlaen i'r diwydiant niwclear ac yn rhoi gobaith fod cyhoeddiad am Wylfa B gam yn nes," meddai Mr Davies.
Swyddi parhaol
Consortiwm dan arweinyddiaeth EDF o Ffrainc fydd yn gyfrifol am godi Hinkley Point.
Bydd y safle sy'n costio 拢16 biliwn.
Yr amcangyfri' yw y bydd hyd at 25,000 o swyddi adeiladu'n cael eu creu a 900 o swyddi parhaol.
Mae Hinkley point yn un o wyth o safleoedd sy'n cael eu hystyried ar gyfer codi atomfeydd newydd ym Mhrydain.
Ym Mehefin 2011 cadarnhawyd fod Wylfa ar Ynys M么n yn un o'r wyth.
Hwb
Mae Gweinidogion San Steffan ac EDF wedi bod yn cynnal trafodaethau yngl欧n 芒'r isafswm fydd yn cael ei dalu am drydan sy'n cael ei gynhyrchu yn Hinkley.
Mae'n debyg fod y ddwy ochr wedi cytuno ar bris o 拢92.50 am bob megawatt.
Mae hynny tua dwbl yr hyn sy'n cael ei dalu am gynhyrchu trydan ar hyn o bryd.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru David Jones fod y newyddion am Hinkley Point yn gam positif i'r Wylfa.
"Mae cyhoeddiad heddiw am Hinkley Point yn rhoi hwb i Gymru.
"Bydd y newyddion fod cytundeb wedi ei wneud am osod pris yn newyddion da i Hitachi a datblygiad Wylfa.
"Mae'n fuddsoddiad mewn cynhyrchu ynni carbon isel ac yn lleihau'r risg sy'n wynebu cynhyrchwyr drwy roi sicrwydd yngl欧n 芒 chodi arian."
Dywed beirniaid y diwydiant niwclear y bydd y cytundeb yn golygu y bydd prisiau ynni yn codi a bod cytuno ar bris isafswm gyfystyr 芒 rhoi sybsidi i'r diwydiant.