大象传媒

Canwr opera a 45 o blant

  • Cyhoeddwyd
Bryn Terfel
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd Theatr Bryn Terfel yn rhan o Ganolfan Pontio fydd yn agor ym Medi 2014.

Mae'r canwr opera rhyngwladol, Bryn Terfel, yn ymuno 芒 45 o blant o ysgolion Bangor ar safle adeilad newydd Theatr Bryn Terfel ddydd Gwener.

Bydd Theatr Bryn Terfel yn theatr hyblyg, aml-bwrpas yng nghalon Pontio - Canolfan Celfyddydau ac Arloesi newydd Prifysgol Bangor sydd i'w hagor ym Medi 2014.

Hwn fydd ymweliad cyntaf Bryn 芒 safle Pontio - ac 芒'r theatr sydd i'w henwi ar ei 么l.

Bydd Pontio yn gartref hefyd i sinema, canolfan ddylunio ac arloesi, Undeb y Myfyrwyr, darlithfeydd, mannau dysgu cymdeithasol, bwyty, bar, caffi a mwy.

Dywedodd Bryn Terfel: "Y theatr yw'r tlws yng nghoron Pontio. Mi wn mor bwysig yw cael lleoliad bywiog o safon uchel ar gyfer perfformiadau, a llwyfan ffyniannus ar gyfer celfyddydau a cherddoriaeth yng nghalon ein cymunedau yng Nghymru. Edrychaf ymlaen at ddychwelyd, fel perfformiwr a hefyd fel aelod o'r gynulleidfa."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yng Nghanolfan Pontio bydd theatr newydd, sinema, Undeb y Myfyrwyr, bar a chaffi

Dywedodd Elen ap Robert, Cyfarwyddwr Artistig Pontio: "Mae Bryn Terfel yn fodel r么l llawn ysbrydoliaeth ar gyfer cerddorion a pherfformwyr ifainc uchelgeisiol, yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae wedi gwneud cymaint i'r celfyddydau yng Ngogledd Cymru - ac i godi proffil Cymru yn rhyngwladol."

"Gyda llai na blwyddyn i fynd hyd nes inni agor y Ganolfan, mae'n amser cyffrous iawn yn natblygiad Pontio. Bydd Theatr Bryn Terfel yn lleoliad perfformio ar raddfa ganolig o bwys strategol, y bydd modd ei addasu ar gyfer amrywiaeth eang o ffurfiau celfyddydol - o ddrama, dawns, comedi, gigiau, cerddoriaeth ryngwladol - hyd at gyngherddau cerddoriaeth glasurol ac opera siambr."

Mewn hetiau caled a siacedi llachar, mae Bryn Terfel a'r 45 o blant o ysgolion cynradd Hirael a Glan Cegin yn canu 'Anfonaf Angel', c芒n a ysgrifennwyd ar gyfer Bryn gan Robat Arwyn a Hywel Gwynfryn yn 2011.