Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
拢2 filiwn i atal trais yn y cartref
Mae'r Gronfa Loteri Fawr wedi rhoi 拢2 filiwn tuag at brosiect sy'n ceisio atal trais yn y cartref.
Mi fydd elusen Calan yn peilota'r gwaith gyda theuluoedd yng Nghastell Nedd a Phort Talbot am gyfnod o bum mlynedd.
Yn ogystal ag ymyrryd pan fydd plant mewn cartref lle mae trais yn digwydd, bydd Calan yn rhoi cyngor i bobl ifanc sydd mewn perthynas dreisgar neu lle mae cam-drin emosiynol yn digwydd.
Yn 么l y Loteri Genedlaethol 拢2 filiwn yw'r swm mwyaf o arian maen nhw erioed wedi ei roi tuag at blant a phobl ifanc yng Nghymru.
Chwarter yn dioddef
Mae ystadegau Llywodraeth Cymru'n dangos fod trais yn y cartref yn gynyddol fwy tebygol o fod yn ffactor pan mae achosion yn cael eu cyfeirio ar y gwasanaethau cymdeithasol.
Mae'r ffigyrau diweddaraf - sydd ar gyfer 2012 - yn dangos fod hyn yn wir 23% o'r amser.
Yn ogystal, mae'r ystadegau'n dangos fod bron i chwarter (24%) o bobl ifanc Cymru sydd rhwng 18 a 24 wedi gweld trais yn eu cartref yn ystod eu plentyndod.
Yn ol prif weithredwr Calan, Rhian Bowen-Davies, mi fydd tystiolaeth o be sy'n gweithio'n cael ei gasglu o ledled y DU er mwyn datblygu ffyrdd effeithiol o ymyrryd.
"Lles a diogelwch y bobl yma yw'r flaenoriaeth," meddai Ms Bowen-Davies.
"Mi fyddwn ni'n ceisio torri'r cylch o drais yn y cartref sydd weithiau yn bodoli o genhedlaeth i genhedlaeth."
'Trosedd ofnadwy'
Dywedodd Lesley Griffiths AC, y gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, mai plant yw'r rhai "sy'n dioddef yn dawel" yn sgil y broblem.
"Mae trais yn y cartref yn drosedd ofnadwy," ychwanegodd.
"Nid yn unig y person sy'n dioddef sy'n cael ei effeithio ond teuluoedd cyfan. Mae unrhyw gefnogaeth i blant sy'n cael eu heffeithio oherwydd cam-drin gan riant felly i'w croesawu'n gynnes."
Mi fydd llwyddiant y fenter yn cael ei fesur gan asiantaeth arbennig sydd wedi ei greu o wahanol grwpiau lleol.