AC Plaid eisiau 'dim i'w wneud 芒 Llafur'

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Neil McEvoy ei ethol i'r Cynulliad fis Mai

Dylai Plaid Cymru "wneud dim byd o gwbl" gyda Llafur, yn 么l un o Aelodau Cynulliad y blaid.

Fe arwyddodd Plaid Cymru a Llafur gytundeb ym mis Mai i gydweithio ym Mae Caerdydd.

Ond dywedodd Neil McEvoy wrth gynhadledd y blaid yn Llangollen y dylai'r aelodau gael pleidlais ar y cytundeb.

Fe ddywedodd yr arweinydd, Leanne Wood, yn ei haraith yn y gynhadledd na fyddai 'na glymblaid rhwng y pleidiau.

Dywedodd y bydd'r cytundeb presennol "yn helpu Cymru" ond bod y wlad "yn dal angen llywodraeth amgen".

Mewn cyfweliad 芒'r 大象传媒, dywedodd Adam Price AC ei fod e am weld clymblaid, ond mai "barn leiafrifol" ydi hi o fewn Plaid Cymru.

'Gwrthblaid rymus'

Yn ei araith, ddywedodd Neil McEvoy bod y gefnogaeth i Blaid Cymru yn cynyddu pan fo'r blaid yn dangos eu bod yn "wrthblaid rymus".

"Ddylen ni wneud dim byd o gwbl gyda'r blaid 'na [Llafur]", meddai. "Mae'r cyhoedd eisiau gwrthblaid rymus a dyna ddylen ni ei roi iddyn nhw."

"Pan wnaethon ni herio Llafur i gael pleidlais gyfartal yn y bleidlais i ethol y prif weinidog, fe gynyddodd lefel y gefnogaeth yn yr arolygon barn, ond fe wnaethon ni gilio'n syth ac fe syrthiodd lefel y gefnogaeth hefyd."

Fe gafodd y cytundeb i gydweithio - sy'n cael ei adnabod fel y compact - ei arwyddo yn sgil y bleidlais gyfartal honno yn y Cynulliad fis Mai.

Disgrifiad o'r llun, Carwyn Jones yn dilyn y bleidlais ar benodi prif weinidog ym mis Mai

Roedd yn golygu bod y byddai Aelodau Cynulliad Plaid Cymru yn helpu i ailethol Carwyn Jones fel prif weinidog, ac y byddai Llafur yn addo gweithredu ar rai o flaenoriaethau Plaid Cymru, gan gynnwys gofal plant am ddim, cronfa driniaeth newydd i'r GIG a chomisiwn isadeiledd i Gymru.

Ond mae Neil McEvoy'n dweud bod Llafur wedi torri'r cytundeb drwy bleidleisio yn erbyn creu deddfwriaeth ar awtistiaeth.

"Gynhadledd, os yw'r compact mor dda, beth am gynnal pleidlais arno mewn cynhadledd arbennig?", meddai fore Sadwrn.

'Ffrynt unedig'

Mewn cyfweliad gyda'r 大象传媒, dywedodd AC Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Adam Price, y byddai'n hoffi gweld clymblaid.

"Rwy' ar y record yn barod," meddai. "Fe wnaeth fy marn i newid ar 么l y bleidlais Brexit, am fy mod i'n credu ein bod ni'n symud mewn i un o'r penodau mwya' ansicr yn ein hanes, ac rwy'n teimlo y dylen ni gael rhyw fath o ffrynt unedig yng Nghymru o'r herwydd, fel ein bod ni'n gallu llywio'r llong drwy gyfnod anodd.

"Rwy'n meddwl fod 'na farn leiafrifol o fewn Plaid fyddai'n hoffi gweld cydweithio cryfach a mwy dwfn, ac mae 'na rai yn y blaid sy'n meddwl y dylen ni dorri'r compact a symud i r么l gwrthblaid fwy confensiynol."

Ychwanegodd ei fod yn credu bod y rhan fwyaf o aelodau a chefnogwyr am weld perthynas "rhywle yn y canol" rhwng clymblaid a gwrthod cydweithio.

Disgrifiad o'r fideo, Dafydd Elis-Thomas: Annibyniaeth yn 'freuddwyd nad yw'n bod'

Daw'r drafodaeth am sut y dylai'r ddwy blaid gydweithio wedi i gyn-arweinydd y cenedlaetholwyr, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, adael y blaid i eistedd fel aelod annibynnol yn y Cynulliad.

Fe ddywedodd yn sgil ei ymddiswyddiad y dylai Plaid Cymru fod wedi "helpu i lywodraethu Cymru yn effeithiol... nid breuddwydio am rhyw fan gwyn fan draw o annibyniaeth nad yw'n bod".