Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Y bleidlais am Wobr Personoliaeth Chwaraeon 大象传媒 Cymru wedi cau
Mae'r bleidlais ar gyfer Gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn 大象传媒 Cymru bellach wedi cau.
Y p锚l-droediwr Gareth Bale, y seiclwr Elinor Barker, y para-athletwr Aled Si么n Davies, y chwaraewr rygbi Jonathan Davies, yr ymladdwr Judo Natalie Powell a'r seiclwr Geraint Thomas sydd ar y rhestr fer.
Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni wobrwyo yng Ngwesty'r Celtic Manor yng Nghasnewydd ddydd Llun, 4 Rhagfyr, yn dilyn y bleidlais gyhoeddus.
Fe wnaeth y bleidlais agor am 08:00 ddydd Llun, 27 Tachwedd a chau am 18:00 ddydd Sadwrn, 2 Rhagfyr.
Y cyn-athletwr ac asgellwr rygbi Cymru, Nigel Walker yw cadeirydd y panel o feirniaid.
Mae pum aelod ar y panel eleni, gyda Brian Davies, Sarah Thomas, Steve James a Nathan Blake yn ymuno 芒 Walker.
Y rhestr fer (cliciwch am eu proffil llawn):
- Roedd chwaraewr p锚l-droed rhyngwladol Cymru Gareth Bale yn rhan o d卯m Real Madrid wnaeth ennill Cynghrair y Pencampwyr a La Liga;
- Mae'r seiclwr Elinor Barker wedi ennill medalau ym Mhencampwriaethau'r Byd ac Ewrop ar y trac;
- Fe wnaeth Aled Si么n Davies ennill dwy fedal aur a gosod record byd ym Mhencampwriaethau Para-Athletau'r Byd;
- Jonathan Davies oedd Chwaraewr y Gyfres Y Llewod yn Seland Newydd, ac fe enillodd y Pro12 hefyd gyda'r Scarlets;
- Natalie Powell yw'r ddynes gyntaf o Brydain i gyrraedd rhif un yn netholion Judo'r byd;
- Llwyddodd Geraint Thomas i fod y seiclwr cyntaf o Gymru i wisgo'r crys melyn yn y Tour de France.