Gwobr Personoliaeth Chwaraeon 大象传媒 Cymru: Jonathan Davies

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae chwe enw ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn 大象传媒 Cymru.

Y p锚l-droediwr Gareth Bale, y seiclwr Elinor Barker, y para-athletwr Aled Si么n Davies, y chwaraewr rygbi Jonathan Davies, yr ymladdwr Judo Natalie Powell a'r seiclwr Geraint Thomas sydd ar y rhestr fer.

Mae'r canolwr Jonathan Davies wedi bod yn un o berfformwyr disgleiriaf rygbi'r undeb ar y llwyfan domestig a rhyngwladol yn 2017, ac fe gafodd ei enwi'n Chwaraewr y Gyfres Y Llewod yn Seland Newydd.

Dechreuodd y chwaraewr 29 oed ymgyrch y Chwe Gwlad eleni gyda chais ym muddugoliaeth Cymru o 33-7 yn erbyn Yr Eidal, ond dilynwyd hynny gyda dwy golled yn erbyn Lloegr a'r Alban.

Er iddyn nhw guro Iwerddon mewn g锚m gyffrous yng Nghaerdydd, bu i golled arall yn y g锚m olaf yn erbyn Ffrainc olygu y gorffennodd t卯m Warren Gatland yn bumed yn y tabl.

Methodd rhanbarth Davies, y Scarlets, 芒 chyrraedd rownd yr wyth olaf yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop ond roedden nhw ar d芒n yn y Pro12.

Fe wnaethon nhw guro Leinster yn Iwerddon yn y rownd gynderfynol, er i'r asgellwr Steff Evans gael ei hel oddi ar y cae, cyn trechu t卯m arall o Iwerddon, Munster - hefyd yn Nulyn - yn y rownd derfynol.

Roedd Davies yn un o'r chwe chwaraewr a sgoriodd gais wrth i'r t卯m o Gymru ennill mewn steil o 46-22 i gipio'r teitl am y tro cyntaf ers 2004.

Fe wnaeth safon chwarae Davies olygu iddo gael ei ddewis i garfan Y Llewod ar gyfer y daith i Seland Newydd yn yr haf.

Chwaraeodd y canolwr bob munud o'r tri phrawf yn erbyn y Crysau Duon wrth i'r Llewod greu hanes drwy sicrhau cyfres gyfartal, ac fe wnaeth chwarae rhagorol Davies wrth amddiffyn ac ymosod olygu iddo gael ei enwi'n Chwaraewr y Gyfres i'r Llewod.

Ond nawr bydd raid i Gymru a'r Scarlets ymdopi heb Davies am ran helaeth o dymor 2017-18 gan iddo ddioddef anaf difrifol i'w droed yng ng锚m agoriadol Cyfres yr Hydref ym mis Tachwedd yn erbyn Awstralia, sy'n debygol o'i gadw allan am chwe mis.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Jonathan Davies ei enwi'n Chwaraewr y Gyfres Y Llewod yn Seland Newydd

Ganwyd Davies yn Solihull yn Lloegr, ond yn fuan symudodd ei rieni yn 么l i galon y gymuned Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin er mwyn rhedeg tafarn y Fox & Hound ym Mancyfelin, a dyna sut y cafodd Davies y llysenw 'Fox'.

Mae ei frawd iau, James, hefyd yn chwarae i'r Scarlets fel blaenasgellwr ac enillodd fedal arian Olympaidd gyda th卯m saith-pob-ochr Prydain yn Rio 2016.

Daeth Jonathan Davies drwy system academi'r Scarlets, gan chwarae ei g锚m gyntaf i'r t卯m cyntaf yn 2006. Fe gafodd alwad i chwarae i Gymru yn 2009 a chwaraeodd ei g锚m brawf gyntaf yn erbyn Canada yn Toronto.

O fewn dwy flynedd roedd Davies wedi hawlio'r crys rhif 13 iddo'i hun a dechreuodd chwech o saith g锚m Cymru yng Nghwpan y Byd 2011 - gan sgorio tri chais yn y broses wrth i Gymru gyrraedd y rownd gynderfynol.

Aeth Davies yn ei flaen i helpu ei wlad ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ddwy flynedd yn olynol yn 2012 - gan ennill y Gamp Lawn hefyd - a 2013. Erbyn hyn mae wedi ennill 65 cap i Gymru ac wedi sgorio 13 cais.

Gweddill y rhestr fer:

Cafodd ei ddewis ar gyfer taith Y Llewod yn 2013 a - fel yn 2017 - chwaraeodd bob munud o bob prawf wrth i'r Llewod sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf yn Awstralia ers 1989.

Ymunodd y canolwr 芒 Clermont Auvergne yn 2014 ar gytundeb dwy flynedd gan helpu'r t卯m o Ffrainc gyrraedd rownd derfynol Cwpan Pencampwyr Ewrop a'r Top 14 yn 2015.

Ond daeth ei flwyddyn i ben 芒 mwy o siom o ganlyniad i anaf, ac fe gollodd Cwpan y Byd 2015 oherwydd problem 芒'i ben-glin.

Dychwelodd Davies i Lanelli i ailymuno 芒'r Scarlets yn 2016, ar 么l cytuno ar gytundeb deuol ag Undeb Rygbi Cymru.

Bydd y bleidlais ar gyfer Gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn 大象传媒 Cymru yn agor am 08:00 fore Llun, 27 Tachwedd, ac yn cau am 18:00 nos Sadwrn, 2 Rhagfyr.

Fe fydd y manylion pleidleisio llawn ar wefannau Chwaraeon 大象传媒 Cymru a Cymru Fyw wedi i'r bleidlais agor.

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ddydd Llun, 4 Rhagfyr.

Gwobr ar gyfer Cymru'n unig yw hon, a does dim cysylltiad rhyngddi a Gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y DU.