Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Jones a Sturgeon: 'Safiad Brexit May'n anodd ei gysoni'
Mae prif weinidogion Cymru a'r Alban yn galw ar Lywodraeth y DU i ailystyried ei safiad ar farchnad sengl ac undeb tollau'r Undeb Ewropeaidd.
Mewn datganiad ar drothwy uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig ar ynys Guernsey, mae Carwyn Jones a Nicola Sturgeon yn dweud bod safbwynt Theresa May "yn gynyddol anodd ei gysoni 芒 llinellau coch" ei gweinyddiaeth mewn cysylltiad 芒 Brexit.
Dyw'r llinellau coch hynny ddim "yn gyson 芒 budd y genedl" meddai'r ddau yn eu datganiad ac am y rheswm hynny maen nhw'n dweud y "dylid anelu at fodel tebyg i un Norwy".
Maen nhw'n hefyn yn erfyn ar Lywodraeth y DU i gynnwys ymrwymiad yn ei Phapur Gwyn arfaethedig i aros yn y farchnad sengl a'r undeb tollau.
"Mae 27 gwlad yr UE wedi dweud yn glir mai llinellau coch Llywodraeth y DU, a osodwyd yn Lancaster House ym mis Ionawr 2017, sy'n gyfrifol am y ffaith mai'r unig Brexit y gellir ei gynnig yw un a fydd yn niweidiol tu hwnt i'n heconom茂au ac o bosib yn peryglu ein diogelwch," meddai'r arweinwyr yn y datganiad.
"Yn ymarferol, mae safbwynt Prif Weinidog y DU ar drefniadau tollau a chydweddiad rheoleiddiol yn gynyddol anodd ei gysoni gyda'r llinellau coch, ond does dim modd iddi gyfaddef hynny gan ei bod yn cael ei dal yn wystl gan gefnogwyr brwd Brexit yn ei Chabinet a'i Phlaid. Does dim modd i hyn barhau."
Cydweithio
Cyn y cyfarfod, dywedodd Llywodraeth y DU ei bod wedi ymrwymo i gadw perthynas gweithio da gyda Llywodraeth Cymru.
Dywedodd David Liddington, y gweinidog cabinet sy'n gyfrifol: "Gweithio gyda'n gilydd yw'r union beth y mae pobl y DU am weld eu llywodraethau'n gwneud. Maen nhw am weld eu bywydau'n gwella o ganlyniad cydweithio.
"Dydyn nhw ddim yn disgwyl i lywodrathau gwahanol - gyda gwleidyddiom o bleidiau gwahanol - i gytuno ar bopeth.
"Ond maen nhw yn disgwyl i ni barhau i siarad, a gwrando ar ein gilydd, ac i gydweithio ar y materion mawr sy'n effeithio arnom ni i gyd."