Galwadau ff么n gan dwyllwyr ar gynnydd yn ne Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae yna bryder bod cannoedd o bobl wedi cael eu targedu yn yr wythnosau diwethaf yn unig yn rhanbarth Heddlu De Cymru gan dwyllwyr yn honni eu bod yn blismyn.
Mae'r llu'n pryderu'n gynyddol bod y twyllwyr yn dwyn miloedd o bunnoedd mewn rhai achosion, yn aml oddi wrth bobl oedrannus a bregus.
Maen nhw'n ffonio unigolion yn honni mai plismyn ydyn nhw, gan ddweud bod eu cyfrifon banc dan fygythiad a bod angen tynnu eu harian allan.
Mae'r arian wedyn yn cael ei drosglwyddo i gyfrif y twyllwyr neu ei roi yn nwylo aelod arall o'r giang.
Dywed Heddlu'r De fod yna achosion tebyg ar draws y DU, ond mae nifer yr achosion o fewn eu rhanbarth wedi cynyddu yn y misoedd diwethaf.
Nid yw'r llu wedi cadarnhau faint o bobl sydd wedi cael eu twyllo, ac maen nhw'n dweud nad ydy'r twyllwyr wedi llwyddo i gael arian ymhob achos.
'Awyddus i gael gwared' ar y bobl ben arall y lein
Yn gynharach eleni fe wnaeth yr heddlu rannu stori menyw 95 oed o Benarth sydd wedi cael ei thwyllo deirgwaith mewn 10 mis, gan golli bron i 拢20,000.
Y tro cyntaf fe gafodd Margaret Turner alwad gan ddyn yn honni bod yn aelod o d卯m atal twyll banc HSBC.
Dywedodd wrthi fod ei chyfrif banc dan fygythiad a bod angen iddi roi ei harian mewn cyfrif neilltuol, gan roi manylion y cyfrif hwnnw iddi.
Hefyd fe roddodd rif ff么n Heddlu Llundain iddi er mwyn iddi allu cadarnhau'r alwad, ond fe adawodd y llinell ff么n ar agor ac felly roedd yn dal yn siarad gyda'r twyllwr ei hun pan ffoniodd y rhif hwnnw.
Fe gollodd 拢5,500, ond fe lwyddodd i gael rhywfaint o'r arian yn 么l.
Ar yr ail achlysur, fe honnodd y galwr ei fod yn aelod o'r Heddlu Twyll Difrifol, ac fe ddaeth rhywun mewn person i'w chartref i gasglu 拢7,000 mewn arian parod.
Yn y trydydd achos, fe alwodd dyn yn honni bod yn sarjant gan ddweud fod twyllwyr wedi tynnu arian o'i chyfrif, a'i chynghori i dynnu'r gweddill allan i'w gadw'n ddiogel a'i ddanfon ato.
Y tro hwn fe gollodd 拢7,000. Hefyd fe gollodd gemwaith gwerth miloedd o bunnau ar 么l i'r twyllwyr ei pherswadio nad oedd yn ddiogel i'w gadw yn ei chartref.
Dywedodd Miss Turner wrth yr heddlu: "Fe wnaethon nhw fy ffonio yn gynnar yn y bore a dydw i ddim ar fy ngorau yn y bore."
Dywedodd ei bod mor "awyddus i gael gwared" ar y bobl ben arall y ff么n neu ei bod "wedi gwneud popeth" roedden nhw'n awgrymu.
"Wnes i sylweddoli beth oedd yn digwydd pan ges i ddatganiad gan y banc ac ro'n i mewn dyled. Galla'i ddim credu sut fues i mor dwp. Mae'n beth ofnadwy i wneud i unrhyw un.
"Fy neges i bobl eraill sy'n derbyn galwad fel hun yw i ddweud wrth yr heddlu ar unwaith. Peidiwch 芒 rhoi dim byd i'r twyllwyr."
Mae heddluoedd ar draws y DU yn delio ag achosion o'r fath dan Ymgyrch Signature.
Mae'r twyllwyr, medd yr heddlu, yn hynod o soffistigedig ac mae'r troseddau'n rhai "creulon sy'n manteisio ar unigolion mwyaf bregus cymdeithas".
Maen nhw'n pwysleisio na fyddai'r heddlu byth yn cysylltu 芒 phobl yn y fath fodd nac yn gofyn am arian, a dylai pobl roi'r ff么n i lawr yn syth.
Dylai unrhyw un sy'n derbyn galwad ff么n amheus gysylltu 芒'r heddlu trwy ffonio 101.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2017