Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dilyn 么l troed ei mam wrth gynrychioli Cymru
Mae merch 15 oed o Feirionnydd yn dilyn 么l troed ei mam wrth gynrychioli Cymru ar lefel rhyngwladol mewn treialon c诺n defaid.
Bydd Erin Fflur McNaught, sy'n ddisgybl yn Ysgol y Berwyn, Y Bala, yn cystadlu yn y categori iau yn Nulyn ddydd Sadwrn.
Dechreuodd ei diddordeb yn y gamp o ganlyniad i ddiddordeb ei mam Maralyn sy'n gyn aelod o d卯m rhyngwladol c诺n defaid Cymru.
"Ma' hi wedi bod yn dysgu fi yn dda iawn a dwi'n falch iawn o gael ei help hi," meddai Erin.
"Ma' hi wedi gwneud fi'n proud iawn o ddilyn yn 么l troed fy nheulu - bod pedair cenhedlaeth wedi cael diddordeb, mae'n rhywbeth sbesial iawn."
Dyw'r diddordeb, chwaith, ddim yn annisgwyl, gan iddi gael ei magu ar fferm yn ardal y Bala sy' dafliad carreg o Garth Goch, lle cafodd y treialon c诺n defaid rhyngwladol cyntaf erioed eu cynnal ym mis Hydref 1873.
Fe fydd Erin, sy wedi bod yn cystadlu ers tair blynedd, yn cymryd rhan yn y treialon yn Iwerddon gyda'i chi, Moxy.
"Mae mynd i Iwerddon i gystadlu yn bwysig iawn.
"Mae'r ci yn gwrando'n dda iawn, ac mae'n ufudd iawn, mae just yn ffrind gorau.
"Os da chi'n cael defaid da ac os da chi'n cael ci sy'n gwrando dylai fod yn ok."
Dywedodd Maralyn McNaught fod ei merch wedi gweithio'n galed iawn ac wedi treulio cryn dipyn amser yn gweithio gyda'r ci.
"Dwi'n falch iawn. Dwi'n gwybod ei bod hi wedi gweithio mor galed yn hyfforddi Moxy ac wedi gwario lot fawr o amser efo hi er mwyn ei chael i'r safon ar gyfer y cystadlu yn Iwerddon."