Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Valero yn ymateb wedi i danwydd lifo i aber ym Mhenfro
Mae swyddogion yn ymateb i achos o lygredd olew yn Aberdaugleddau.
Dywedodd llefarydd ar ran Porthladd Aberdaugleddau bod petroliwm wedi llifo i'r d诺r ger purfa olew Valero am tua hanner nos ddydd Mercher.
Mewn datganiad, dywedodd y cwmni eu bod nhw'n cydweithio gyda'r asiantaethau perthnasol er mwyn rheoli'r llygredd, ond eu bod nhw'n methu cadarnhau faint o'r sylwedd sydd wedi mynd i'r d诺r.
Ychwanegodd eu bod nhw wedi dilyn eu cynlluniau wrth gefn ac wedi rhoi gwybod i'r awdurdodau lleol.
Yn 么l Mike Ryan, sy'n harbwrfeistr yn Aberdaugleddau, mae'r llygredd dan reolaeth ac maen nhw'n parhau i asesu a monitro'r sefyllfa.
Cafodd llongau eu rhwystro rhag hwylio am gyfnod ond bellach mae'r llwybrau wedi ailagor.
Mae'r cyhoedd wedi cael eu cynghori i fod yn wyliadwrus o unrhyw lygredd ar hyd yr arfordir.
Dywedodd Andrea Winterton, Rheolwr Gweithrediadau Cyfoeth Naturiol Cymru: "Mae'n swyddogion ni wedi bod yn gweithio gydag Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau ac asiantaethau eraill er mwyn lleihau effaith y tanwydd ar yr aber.
"Mae archwiliadau yn cael eu cynnal fel mesur rhagofalus, a bydd booms yn cael eu gosod er mwyn amddiffyn y traethau."
Ychwanegodd: "Mae'r ymchwiliad yn parhau ac rydyn ni mewn trafodaethau cyson gyda Valero."