Cost ymosodiadau c诺n ar anifeiliaid fferm yn uwch

Disgrifiad o'r llun, Mae ystadegau NFU Mutual yn dangos bod gwerth 拢285,000 o niwed wedi ei wneud i stoc ffermwyr yn 2018, sy'n gynnydd o 113%.
  • Awdur, Sion Pennar
  • Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru

Fe ddyblodd cost ymosodiadau gan g诺n ar dda byw yng Nghymru yn 2018, yn 么l cwmni yswiriant.

Mae ystadegau NFU Mutual yn dangos bod gwerth 拢285,000 o niwed wedi ei wneud i stoc ffermwyr yn 2018, sy'n gynnydd o 113%.

Dywedodd un ffermwr o Gorwen bod colli defaid achos ymosodiadau yn "dorcalonnus".

Er hynny, mae tystiolaeth fod perchnogion c诺n bellach yn fwy tueddol i roi eu hanifail ar dennyn pan fo da byw gerllaw.

'Diwrnod gwaethaf fy mywyd'

Ym mis Mai 2017, fe gollodd Bryn Davies o Gorwen 18 o ddefaid yn dilyn dau ymosodiad gan g诺n ar braidd sy'n cael eu cadw ar dir rhent ar y Gororau.

Ar un o'r achlysuron hynny, roedd o'n mynd i fwydo'r anifeiliaid pan welodd 12 dafad farw ym mhob cornel o'r cae.

"Dod o hyd i'r defaid fel 'na oedd diwrnod gwaethaf fy mywyd ar y fferm," meddai.

"Ar ol i mi eu hwyna trwy dywydd garw, roedd eu colli nhw fel 'na yn dorcalonnus. Nid dim ond y colli bywyd ond yr holl waith aeth i'w magu nhw."

Yn 么l data NFU Mutual, rhwng Ionawr ac Ebrill - cyfnod wyna - mae ymosodiadau ar ddefaid yn fwyaf tebygol o ddigwydd.

"Er ei bod hi'n dda i glywed fod pobl yn rhoi eu ci ar dennyn tra allan yng nghefn gwlad, mae nifer yr ymosodiadau gan g诺n yn parhau'n uchel," meddai Merfyn Roberts o'r cwmni.

"Rydan ni'n clywed am fwy o g诺n lleol yn dianc o'u cartrefi gyda'u perchnogion un ai ddim yn gwybod neu ddim yn poeni bod eu c诺n yn wyllt ac yn creu hafoc.

"Mae miloedd o ddefaid yn cael eu lladd a'u hanffurfio gan g诺n ac mi fyddwn ni'n cynyddu'n hymdrechion i godi ymwybyddiaeth o'r broblem, a helpu'r heddlu i ddod 芒 pherchnogion c诺n sy'n ymosod ar dda byw o flaen eu gwell."

'Colli bywoliaeth'

Dywedodd PC Dave Allen, swyddog yn adran Troseddau Cefn Gwlad Heddlu'r Gogledd, bod angen rhoi c诺n ar dennyn "os oes amheuaeth bod da byw yn y cyffiniau".

"Mae ymosodiadau ar dda byw yn ddinistriol i bawb. Gall ci o unrhyw faint neu oed ymosod ar stoc heb rybudd," meddai.

"Fe allai perchennog yr anifeiliaid golli eu bywoliaeth a gwerth blynyddoedd o stoc. Ac mae risg i berchennog yr anifail anwes golli aelod pwysig o'u teulu, ynghyd 芒 channoedd, neu filoedd, o bunnau mewn iawndal i'r dioddefwr."

Mae cyfanswm y niwed i stoc ffermwyr ar draws y DU tua 拢1.2m, yn 么l ffigyrau'r cwmni.