Galw ar y llywodraeth i weithredu ar alwadau twyllodrus

Disgrifiad o'r llun, Mae bron i 5 miliwn o bobl dros 65 oed yn meddwl eu bod nhw wedi cael eu targedu gan dwyllwyr, yn 么l Age UK

Mae angen i Lywodraeth y DU wneud taclo galwadau ff么n twyllodrus yn flaenoriaeth o ran plismona, yn 么l Aelod Seneddol Llafur.

Dywedodd Chris Elmore, AS Ogwr, ei fod wedi ei syfrdanu gan faint o bobl h欧n sydd yn cael eu targedu gan dwyllwyr.

Mae twf diweddar wedi bod yn nifer y galwadau ff么n - yn aml i bobl oedrannus - sy'n esgus bod o'r Swyddfa Dreth.

Yn 么l Mr Elmore, mae galwadau ff么n o'r fath yn "broblem enfawr ar hyd Cymru a'r DU ac mae angen mwy o gydweithrediad er mwyn mynd i'r afael 芒'r mater".

Mae'r AS yn dweud bod tystiolaeth fod twyllwyr bellach yn targedu ardaloedd sydd 芒 chanran uchel o bobl h欧n yn byw yno.

Dywedodd: "Mae twyllo yn broblem enfawr o fewn ein cymdeithas. Nid yw targedu pobl h欧n neu bobl fregus yn dderbyniol ac mae'n rhaid i'r llywodraeth ymateb.

"Rydyn ni angen casglu data yn well, deall y broblem yn well, sicrhau mwy o reoleiddio a mwy o gyllid ar gyfer gwasanaethau fel safonau masnach."

Ychwanegodd bod twyllo yn "epidemig" ar hyd y wlad, gyda de Cymru yn dioddef yn arbennig.

Disgrifiad o'r llun, Mae Mr Elmore wedi sicrhau trafodaeth seneddol arbennig ar y mater

Wrth siarad ar y Post Cyntaf, dywedodd Alison Farrar o Safonau Masnach Cymru na wnaiff y sefyllfa wella heb bolisi cadarn.

Rhybuddiodd am y peryglon o droseddwyr sydd bellach "wedi deffro i'r ffaith bod y Cymry yn fwy parod i roi gwybodaeth i rywun yn eu hiaith gyntaf".

"Mae 'na rai sgamwyr sydd yn cyfeirio pobl i'r siaradwyr Cymraeg yn eu swyddfa - felly mae angen bod yn wyliadwrus," meddai.

'Arwain y ffordd'

Yn 么l elusen Age UK, mae bron i 5 miliwn o bobl dros 65 oed yn meddwl eu bod nhw wedi cael eu targedu gan dwyllwyr.

Mae canllawiau newydd Llywodraeth y DU yn dweud bod modd cosbi unrhyw gwmni sy'n gwneud galwadau diangen i bobl yngl欧n 芒'u pensiynau.

Dywedodd y gweinidog o'r Swyddfa Gartref, Victoria Atkins bod sefydliadau fel y Swyddfa Dreth yn arwain y ffordd yn y frwydr yn erbyn twyllwyr.

Er hynny ychwanegodd bod y llywodraeth yn cydnabod yr angen i wella'r ffordd y mae'r heddlu yn mynd ati i daclo twyll o'r fath.