Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dylan Jones yw Llywydd Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy
Y newyddiadurwr a'r cyflwynydd Dylan Jones fydd Llywydd Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019.
Mae cyflwynydd rhaglenni Post Cyntaf ac Ar y Marc ar 大象传媒 Radio Cymru yn hanu o bentref Capel Garmon ger Llanrwst ac yn gyn-ddisgybl Ysgol Dyffryn Conwy.
Fel rhan o'i r么l fe fydd yn annerch cynulleidfa'r Pafiliwn o'r llwyfan yn ystod wythnos yr Eisteddfod, sy'n cael ei chynnal ar gyrion Llanrwst.
Dywedodd wrth Cymru Fyw: "Dyma fydd y tro cynta' i mi gael llwyfan yn y Genedlaethol!
"Mae'n anrhydedd mawr - mae 'na lawer mwy o bobl sy'n ymwneud 芒 Steddfoda' a'r pethe na fi, yn saff."
Ar 么l graddio mewn Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, fe fu'n athro hanes yn Ysgol Maes Garmon, Yr Wyddgrug ac yn bennaeth adran yn Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy.
Ymunodd ag Adran Newyddion 大象传媒 Cymru - flwyddyn ar 么l gohebu ar drychineb Hillsborough ag yntau yno fel sylwebydd p锚l-droed.
Cafodd ei benodi yn y lle cyntaf fel gohebydd y gogledd ddwyrain, ond bu hefyd yn ymdrin 芒 straeon Prydeinig a rhyngwladol yn cynnwys llofruddiaeth James Bulger, trychineb Dunblane, marwolaeth y Dywysoges Diana ym Mharis, a digwyddiadau ym Mhacistan wedi ymosodiadau 9/11.
Dechreuodd gyflwyno rhaglen Taro'r Post ar Radio Cymru yn 2002 cyn symud i'r Post Cyntaf yn 2013.
Mae'n cyflwyno'r rhaglen b锚l-droed boblogaidd Ar y Marc bob bore Sadwrn es 1992, ac yn dweud bod dilyn llwyddiant Cymru ym mhencampwriaeth Euro 2016 yn Ffrainc "yn ddi-os" yn un o'r uchafbwyntiau.
Enillodd wobr Gohebydd Newyddion Teledu'r Flwyddyn yn 1997, Personoliaeth Radio'r Flwyddyn yn yr 糯yl Gyfryngau Celtaidd yn 2009, ac eleni roedd yn aelod o'r t卯m enillodd wobr am y Rhaglen Newyddion a Materion Cyfoes Orau yng Ngwobrau Cyfryngau Cymru.
Mae Dylan a'i wraig Elen yn byw yn Ninbych. Yn dad i chwech o blant - Lois, Gruff, Rhys, Sara, Ianto ac Alys - mae'n ymfalch茂o bod "y rhan fwyaf ohonynt yn gefnogwyr Leeds United erbyn hyn!".