大象传媒

Galw am gynigion i godi melinau gwynt yn y gogledd

  • Cyhoeddwyd
Gwynt y M么rFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae 160 o felinau ar safle Gwynt y M么r oddi ar arfordir y gogledd

Gall ragor o felinau gwynt gael eu hadeiladu oddi ar arfordir gogledd Cymru, wrth i Ystadau'r Goron alw ar gwmn茂au i wneud cynigion i ddatblygu'r safle.

Mae'r cynllun yn rhan o bedwar man ar draws Prydain sy'n cael eu cynnig i ddatblygu melinau gwynt, wrth i'r llywodraeth geisio mynd i'r afael 芒 chynnydd lefelau carbon.

Mae'r ardal rhwng dwyrain Ynys M么n a Bae Lerpwl eisoes yn gartref i dros 200 o felinau, ond yn 么l un ymgyrchydd byddai'n protestio i wrthwynebu rhagor.

Mae Cyngor Ynys M么n wedi ei ddisgrifio fel "cyfle enfawr".

Pe bai'r ceisiadau'n llwyddiannus gallai'r cwmn茂au ennill hawliau dros dir gwely'r m么r erbyn 2021, gyda melinau gwynt yn weithredol erbyn diwedd y ddegawd nesaf.

Y Deyrnas Unedig sy'n cynhyrchu'r cyfanswm mwyaf o egni drwy felinau gwynt morol ar draws y byd ac yn 么l Ystadau'r Goron mae arfordiroedd y wlad yn cynnig yr amgylchiadau perffaith i ddatblygu mwy, gyda d诺r bas a gwyntoedd cyson.

Pe bai ceisiadau ar draws y pedwar safle Prydeinig yn llwyddo mae potensial i bweru dros chwe miliwn o dai.

'Gwarthus'

Ond nid pawb sy'n cytuno gyda'r syniad.

Pan adeiladwyd 160 o felinau ar safle Gwynt y M么r oddi ar arfordir y gogledd yn 2013 fe brotestiodd John Lawson-Reay yn erbyn y datblygiad.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd John Lawson-Reay y byddai rhagor o felinau gwynt yn "fandaliaeth"

Yn byw yn Llandudno, fe ddywedodd y gall y gr诺p y mae'n rhan ohono - Save our Scenery - ailffurfio i wrthwynebu'r ceisiadau.

"Mae o am effeithio ar ein twristiaeth. Yr hyn da ni'n ei gynnig ydy llefydd prydferth gweledol. Fandaliaeth ydy o," meddai.

"Gallwch chi eu rhoi nhw yng nghanol M么r y Gogledd ond nid yn y fan hyn. Mae'n warthus."

Cyfle am swyddi?

Tra bod Mr Lawson-Reay yn ei wrthwynebu, yn 么l Carwyn Jones o Gyngor M么n mae'n "gyfle gwych".

"Fel Ynys Ynni 'da ni'n croesawu hyn," meddai.

"Os ydy'r Deyrnas Unedig am gyrraedd y targed o allyriadau net zero carbon erbyn 2050 mae rhaid cael ynni gwynt felly 'da ni'n gefnogol.

"Hefyd mae 'na bwysau mawr gan bobl ifanc, a dylwn ni eu cefnogi a gwneud hynny ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd y Cynghorydd Carwyn Jones y byddai'r melinau gwynt yn "gyfle gwych"

Ychwanegodd y gallai'r safle gynnig gwaith i rai o'r ynys a llenwi rhan o'r bwlch ar 么l i gynllun atomfa Wylfa Newydd gael ei ohirio.

Yn 么l Ystadau'r Goron mae cyfle i archwilio unrhyw rai sy'n awyddus i wneud cais a cheisio dod o hyd i ardaloedd a chynigion addas.